Mae Nicola Sturgeon wedi dweud nad yw’n “syndod” iddi fod manylion wedi cael eu datgelu o’r ymchwiliad i Alex Salmond yn dilyn adroddiadau bod y Pwyllgor Senedd wedi dod i’r casgliad ei bod wedi camarwain y Senedd.

Yn ôl adroddiadau roedd Aelodau Seneddol Holyrood sy’n aelodau o’r pwyllgor wedi pleidleisio o 5-4 bod y Prif Weinidog wedi rhoi tystiolaeth gamarweiniol ynglŷn â’i chyfarfod gyda’i rhagflaenydd Alex Salmond yn ystod yr ymchwiliad i honiadau o aflonyddu yn ei erbyn.

Fe fyddai hynny’n gyfystyr a chamarwain y Senedd.

Dywedodd Nicola Sturgeon wrth Sky News ei bod yn “glynu at yr holl dystiolaeth dw i wedi ei roi i’r pwyllgor.”

Mae hi’n honni bod aelodau o’r gwrthbleidiau ar y pwyllgor wedi “dod i benderfyniad cyn i fi yngan gair o dystiolaeth,” gan ychwanegu nad oedd yn syndod iddi fod manylion wedi cael eu datgelu cyn i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn aros am ganlyniadau ymchwiliad James Hamilton QC sy’n penderfynu a yw hi wedi torri’r cod gweinidogol.

Mae’r penderfyniad yn debygol o roi pwysau ychwanegol ar Nicola Sturgeon i ymddiswyddo cyn etholiad mis Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran senedd yr Alban bod y pwyllgor – sydd â phedwar aelod o’r SNP a phump o’r pleidiau eraill – yn dal i ystyried eu hadroddiad.

A Scottish Parliament spokeswoman said the committee – which has four SNP members and five from other parties – is still considering its report. Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Cafodd y Pwyllgor ei sefydlu ar ôl i Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, alw am adolygiad barnwrol a oedd wedi dod i’r casgliad bod ymchwiliad Llywodraeth yr Alban yn anghyfreithlon. Cafodd iawndal o £512,250 tuag at gostau cyfreithiol yn 2019.