Fe fydd plant Cymru yn dysgu am hiliaeth a chyfraniad cymunedau ethnig lleiafrifol fel rhan o’r cwricwlwm newydd.
Mae’n dilyn argymhellion adroddiad ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i ysgolion.
Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad ac hefyd wedi cadarnhau y bydd £500,000 yn cael ei ddarparu tuag at weithredu’r argymhellion, fel rhan o’r broses o roi cwricwlwm newydd Cymru ar waith.
Mae’r adroddiad gan Weithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a gadeirir gan yr Athro Charlotte Williams, yn gwneud 51 o argymhellion i gyd.
Mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar feysydd megis gwella adnoddau addysgol, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y gweithlu, ac Addysg Gychwynnol Athrawon.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch materion fel cynaliadwyedd a phwysigrwydd gweithredu ar lefel yr ysgol gyfan, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a chymunedau ehangach.
“Torri tir newydd”
Wrth i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi, dywedodd yr Athro Charlotte Williams: “Mae’r gwaith hwn yn ddigynsail, ac mae ei angen yn fawr.
“Mae’r adolygiad yn torri tir newydd o ran diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.
“Mae’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, y ffordd y maen nhw’n ymateb i bryderon yr adroddiad hwn, yn gweithredu arnyn nhw, ac yn cynnal y gwaith hwnnw yn hollbwysig i les plant a phobl ifanc yng Nghymru, i les y rheini sydd o gefndiroedd lleiafrifol, ac i les cymdeithas yn gyffredinol.
“All addysg ynddo’i hun ddim mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy’n cynnal anghydraddoldeb hiliol. Fodd bynnag, gall addysgu fynd gryn ffordd i greu dinasyddion egwyddorol a gwybodus y dyfodol.
“Dw i’n hyderus y bydd cynigion yr adroddiad hwn yn galluogi’r gymuned addysg i fynd i’r afael yn fwy systemataidd â’r maes blaenoriaeth hwn ac ymateb iddo gyda’i gilydd.”
Kirsty Williams yn addo y bydd yr “argymhellion hyn yn cael eu gweithredu’n llawn”
Ychwanegodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Athro Williams a’r Gweithgor am yr adroddiad, sy’n drylwyr ac yn dreiddgar, gan gynnig gwirioneddau anghysurus ac argymhellion clir.
“Fel y mae’r adroddiad yn ei nodi, dim ond drwy ddatgelu amrywiol safbwyntiau a chyfraniadau cymunedau lleiafrifoedd ethnig at ddatblygiad Cymru ar hyd ein hanes a hyd heddiw y gallwn gyfoethogi ein cwricwlwm newydd.
“Dw i wrth fy modd yn cael derbyn holl argymhellion yr adroddiad a rhoi cymorth ariannol i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu’n llawn.”