Mae rheoleiddiwr meddyginiaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i’r casgliad bod brechlyn covid AstraZeneca yn “ddiogel ac yn effeithiol”.
Dywedodd Asiantaeth Meddyginiaeth Ewrop (EMA) y byddai’n parhau i ymchwilio i’r cysylltiadau posib rhwng y brechlyn ac achosion o geulo gwaed.
“Mae’r pwyllgor wedi dod at gasgliad clir a gwyddonol,” meddai Prif Weithredwr yr EMA, Emer Cooke. “Mae’r brechlyn yma yn ddiogel ac yn effeithiol.
“Mae’n amddiffyn pobol rhag covid-19 – a’r risg o ddiweddu fyny yn yr ysbyty neu’n marw – ac felly dylwn roi llawer yn fwy o ystyriaeth i hynny nac i risgiau posib [y brechlyn].
“Mae’r pwyllgor hefyd wedi dod i’r casgliad nad oes cysylltiad rhwng y brechlyn a’r cynnydd yn y risg o ddigwyddiadau thromboembolig neu geulo gwaed.”
Trafferth ar y cyfandir
Daw casgliad yr EMA wedi i 13 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd benderfynu rhoi stop dros dro ar ddefnyddio’r brechlyn hwn.
Ddydd Iau wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) alw ar i wledydd barhau i ddefnyddio’r brechlyn.
Mae llawer o wledydd Ewrop yn cael trafferth wrth ddelio â naid ddiweddar mewn achosion.
Roedd rhaglenni brechu Ewrop eisoes dan anfantais oherwydd problemau â chyflenwadau, ac mae yna bryderon am yr arafu diweddar oherwydd pryderon am y brechlyn AstraZeneca.
Bydd WHO yn cyhoeddi eu casgliadau hwythau ynghylch pa mor ddiogel mae’r brechlyn ddydd Gwener.