Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga, 23, gan aelod o’r cyhoedd yn Heol Westville, Penylan, tua 11.30yh ar nos Iau, Ionawr 28.

Mae dau ddyn eisoes wedi cael eu harestio a’u cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga.

Ond mae Heddlu De Cymru bellach wedi rhyddhau manylion dau ddyn arall sydd o dan amheuaeth, sef Josif Nushi, 26, o Ninian Road, Parc y Rhath, Caerdydd, a Mihal Dhana, 27, sydd heb gyfeiriad sefydlog.

Josif Nushi
Mihal Dhana

Dywedodd yr Heddlu fod y ddau yn ymwneud â chynhyrchu cannabis ac roedd ganddyn nhw gysylltiadau i ffatri gannabis gafodd ei darganfod yn fuan ar ôl darganfod corff Tomasz Waga.

Roedden nhw wedi dianc o Gaerdydd ar Ionawr 29.

Mae gan y ddau gysylltiadau yn Lushnjie, Albania, yn ogystal ag Efrog, Bradford, Huddersfield, gogledd Llundain a Bryste.

Mae teulu Tomasz Waga wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn parhau i gael cymorth gan swyddogion cymorth teulu arbenigol.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea, o Heddlu De Cymru: “Roedd Tomasz yn fab, brawd, tad a phartner cariadus i’w gariad.

“Rydyn ni’n gwybod ei fod wedi teithio o ardal Dagenham ddydd Iau i 319 Heol Casnewydd yng Nghaerdydd.

“Credwn fod aflonyddwch wedi digwydd tua 10.30yh yn y lleoliad hwn pan ymosodwyd arno ac mae ymholiadau’n parhau i weld sut y cafodd ei gludo i Westville Road lle cafodd ei ddarganfod.

“Er bod dau ddyn wedi cael eu harestio a’u cyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth, mae dau arall o dan amheuaeth – Josif Nushi a Mihal Dhana.

“Mae ymholiadau trylwyr wedi’u cynnal yn genedlaethol i ddod o hyd i’r ddau unigolyn hyn ac rydym yn cysylltu â’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.

“Ond rydym bellach hefyd yn apelio ar y cyhoedd am help a byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru.”

Dyn gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio Tomasz Waga

Dau wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga, 23, yng Nghaerdydd

Arestio dau ddyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Tomasz Waga

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga ym Mhenylan, Caerdydd ar Ionawr 28
Logo Heddlu'r De yn siap helmed

Enwi dyn y cafwyd hyd i’w gorff yng Nghaerdydd wrth i’r heddlu ymchwilio i’w lofruddiaeth

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga, 23 oed, yn ardal Penylan nos Iau (Ionawr 28)