Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn y cafwyd hyd i’w gorff yn ardal Penylan yng Nghaerdydd nos Iau (Ionawr 28).

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymchwilio i lofruddiaeth Tomasz Waga, 23, ar ôl i aelod o’r cyhoedd gysylltu â nhw ar ôl dod o hyd i’w gorff am oddeutu 11.30yh.

Teyrnged

Yn ôl ei deulu, roedd Tomasz Waga “wedi’i garu gan lawer ac fe gafodd ei gipio oddi arnom yn rhy fuan”.

“Rydym yn torri’n calonnau ynghylch ei golli’n sydyn ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth ddod ymlaen,” meddai’r teulu.

“Bydd e’n byw yn ein calonnau ni am byth ac yn cael ei gofio fel y mab, brawd, tad a phartner hoffus oedd e.”

Ymchwiliad

Dywed yr heddlu fod Tomasz Waga wedi teithio o Dagenham yn Essex i Gaerdydd nos Iau.

Mae lle i gredu bod twrw wedi bod am oddeutu 10.30yh ac fe ddioddefodd e ymosodiad.

Dydy’r heddlu ddim yn gwybod sut iddo gyrraedd stryd arall yn yr ardal wedi hynny.

Maen nhw’n apelio am dystion a gwybodaeth ynghylch unrhyw beth oedd wedi digwydd rhwng 10 o’r gloch a chanol nos.

Maen nhw hefyd yn awyddus i siarad â ffrindiau Tomasz Waga yn Llundain a allai eu helpu i greu darlun o’i fywyd yno.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ac mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw’n cysylltu ei farwolaeth â lladrad arall yn yr ardal ar Ionawr 27 a 28.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.