Mae pobol yng Nghymru yn cael eu hannog i barhau i ddilyn cyfyngiadau’r coronafeirws wrth i’r rhaglen frechu barhau.
173.4 yw cyfradd ‘R’ dyddiol Cymru, sef nifer y bobol sydd wedi’u heintio ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ionawr 25.
Mae 73.8% o bobol dros 80 oed wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn, ynghyd â 74.5% o breswyliaid cartrefi gofal a 78.8% o staff cartrefi gofal.
Mae 403,463 dos cyntaf a 786 ail ddos wedi’u rhoi hyd yn hyn.
Nod Llywodraeth Prydain yw brechu 15m o bobol yn y categorïau cyntaf, gan gynnwys pobol dros 70 oed, erbyn Chwefror 15.
Mae tua 8.3m o bobol wedi cael dos cyntaf hyd yn hyn.
Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn ôl Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir i roi’r hawl i ddau berson o aelwydydd gwahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd yn yr awyr agored gan fod gostyngiad mewn achosion erbyn hyn.
Ond mae’n rhybuddio bod y niferoedd yn dal i fod yn uchel a bod ysbytai dan “bwysau eithriadol” o hyd.
Mae’n annog pobol i fabwysiadu’r un feddylfryd ag y gwnaethon nhw yn ystod y cyfnod clo cyntaf fis Mawrth y llynedd.
“Mae hon yn adeg hanfodol,” meddai.
“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw at y rheolau dros yr wythnosau nesaf fel bod nifer yr achosion yn parhau i ostwng a bod ysbytai’n gallu dechrau adfer, tra bod y rhaglen frechu ar y gweill i warchod y rhai mwyaf brecus yn ein cymunedau.
“Efallai na fydd effeithiau’r brechlyn i’w gweld yn genedlaethol am beth amser a rhaid i bawb – gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu brechu – barhau i ddilyn y cyngor ynghylch cadw Cymru’n ddiogel.”
Ailagor ysgolion
Wrth i nifer yr achosion ers dechrau’r ymlediad gyrraedd 192,282, gyda 4,754 o bobol wedi marw yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud ei fod yn gobeithio “manteisio” ar y gyfradd heintio is er mwyn sicrhau y gall plant Cymru ddychwelyd i’r ysgol – a hynny cyn plant unrhyw un arall o wledydd Prydain.
Mae’n ffafrio dychwelyd yn raddol i’r ysgol, gan ddechrau gyda phlant oedran cynradd ar ôl hanner tymor mis Chwefror. Yn Lloegr, Mawrth 8 yw’r dyddiad sydd wedi’i glustnodi.
Daeth cadarnhad gan Mark Drakeford ddydd Gwener (Ionawr 29) ei bod hi’n rhy gynnar i ddechrau llacio’r cyfyngiadau eto ac y bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu eto ymhen tair wythnos.
Fe fu Cymru dan glo ers Rhagfyr 20.