Bydd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn digwydd ar-lein dros bedwar diwrnod eleni.
Hon fydd Eisteddfod Rithiol gyntaf CFfI Cymru, a bydd aelodau o’r 12 ffederasiwn sirol yn cael cyfle i gystadlu yn yr adrannau cerdd, llefaru, cystadlaethau ysgafn, a’r gwaith cartref.
Mae creu ‘Fideo Cerddoriaeth’ yn gystadleuaeth newydd ar gyfer yr Eisteddfod eleni, a’r her yw meimio a chreu fideo i unrhyw gân neu ganeuon sydd wedi cael eu rhyddhau gan y Welsh Whisperer.
Bydd canlyniadau’r holl gystadlaethau yn cael eu rhyddhau ar wefannau CFfI Cymru dros bedwar diwrnod o’r 28ain o Fawrth hyd at y 31ain, gyda’r canlyniadau llawn i’w gweld ar y wefan yn fuan wedi hynny.
Cyfle i gael ychydig o “normalrwydd”
Bu Manon Wyn, o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol ar Ynys Môn, yn cystadlu yn y cystadlaethau Stori a Sain dros Zoom neithiwr.
“Doedd neb o’n nghlwb i eisiau cystadlu efo fi, felly fe wnaethom ni gystadlu fel sir,” meddai Manon Wyn wrth golwg360.
“Roedd o’n eithaf straightforward. Roedden ni’n cyfarfod pawb arall oedd yn cystadlu ar Zoom, cyn cael ein rhoi mewn ystafelloedd ar wahân i dderbyn y darn darllen, ac i gystadlu o flaen y beirniaid.
O ran cystadlu yn yr Eisteddfod rithiol, roedd yn brofiad “eithaf hawdd”, meddai Manon Wyn.
Ond, mae Covid-19 wedi effeithio ar y clwb yn ôl Manon.
“Mae Covid wedi effeithio arnom ni, achos nid oes gennym ni gymaint o aelodau. Deg aelod sydd gennym ni, ar y mwyaf, ac felly o ganlyniad nid oedd gennym ni lawer o neb yn cystadlu.
“Wedyn, gan fod gennym ni ddim llawer o aelodau roedd rhaid cystadlu efo aelod o glwb arall er mwyn cael tîm o Sir Fôn,” esbonia.
“Ond, roedd cystadlu neithiwr yn gyfle i gael ychydig bach o normalrwydd. Fe wnes i wir fwynhau.”
Cystadlu yn yr Eisteddfod yn “helpu i fagu hyder”
Prif noddwyr y digwyddiad eleni yw Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae Llywydd yr Undeb yn credu na fyddai’n Llywydd oni bai am fudiad y Ffermwyr Ifanc.
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn falch o fod yn brif noddwr Eisteddfod Rithiol CFfI Cymru. Mae’r amser yma yn anodd i bawb a rhaid canmol CFfI Cymru am barhau yn eu gwaith a chynnal y digwyddiad pwysig hwn, er gwaethaf yr holl heriau,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru,” meddai Glyn Roberts.
“Mae cystadlu yn yr Eisteddfod a siarad cyhoeddus yn dysgu llawer o bethau i’n pobl ifanc ac yn helpu i fagu hyder. Yn wir, oni bai am y CFfI, mae’n debyg na fyddwn yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru heddiw. Rwy’n dymuno pob lwc i’r holl gyfranogwyr.”