“Nid yw’r Gymraeg yn ‘iaith dramor’” – Dyna mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi ei ddweud yn ymateb i sylwadau diweddar gan Jacob Rees-Mogg.

Ddydd Mercher cafodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd, ei cheryddu am ddymuno Dydd San Padrig hapus i Dŷ’r Cyffredin yn y Gymraeg ac yn y Wyddeleg.

A heddiw mi wnaeth Jacob Rees-Mogg, yr AS Ceidwadol ac arweinydd Tŷ’r Cyffredin, rannu ei farn yntau am y mater.

Dywedodd bod modd dyfynnu’n fras trwy gyfrwng “ieithoedd tramor”, ond ategodd bod yn rhaid cadw at y Saesneg fel arall.

“Nid yw’r Gymraeg yn ‘iaith dramor’,” meddai Liz Saville Roberts yn ymateb i hynny ar Twitter.

“Falle nad yw Jacob Rees-Mogg yn ymwybodol fod pobl wedi bod yn siarad y Gymraeg gannoedd o flynyddoedd cyn i’r Saesneg fodoli. Prawf nad yw rhethreg Etonaidd yn arwydd o addysg dda.”

Beth ddywedodd Mogg?

Yn siarad heddiw cyfeiriodd Owen Thompson, AS SNP, at gerydd yr AS Plaid ddydd Mercher, a holodd os oedd modd bod yn fwy hyblyg â rheolau iaith Tŷ’r Cyffredin.

“[Hoffwn] atgoffa pobol bod modd dyfynnu rhyw ychydig mewn iaith dramor,” meddai Jacob Rees-Mogg yn ymateb i hynny.

“Dw i’n gwybod bod ambell Aelod yn jocian yn Lladin pob hyn a hyn, ac mae hynny’n cael ei ganiatáu heb os. Ac mae modd jocian yn Gymraeg a thrwy’r Sgoteg hefyd.

“Ond does dim hawl gwneud areithiau llawn. A dw i’n credu bod hynny’n rhesymol am nad oes gennym y cyfleusterau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn y Tŷ yma.

“Byddai’r gost, mwy na thebyg, yn anghymesur. Felly mae croeso i bobol roi negeseuon llon yn Sgoteg a Chymraeg, neu’n Wyddeleg.

“Ond byddai areithiau llawn yn anodd i’r Tŷ.”

Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud wrth Liz Saville-Roberts i stopio siarad Cymraeg

Roedd yr Aelod Seneddol yn dymuno Dydd Sant Padrig hapus i bawb yng Nghymraeg a Gaeleg pan gafodd ei dwrdio