Mae AoS Diddymu’r Senedd wedi awgrymu bod y Gymraeg yn cyfrannu at broblem ail gartrefi Gwynedd, ac mae wedi dweud bod perchnogion ail gartrefi yn cael eu trin fel “bychod dihangol”.
Brynhawn dydd Mercher bu Aelodau o’r Senedd yn trafod deiseb dan yr enw: ‘Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’.
A phan ddaeth tro Mark Reckless i gyfrannu, dywedodd mai “diffyg cyfleoedd economaidd” sydd yn cymell pobol i adael eu hardaloedd.
Manylodd ar hynny ymhellach gan nodi bod Cymry Cymraeg Gwynedd yn gadael y sir am swyddi cyfrwng-Cymraeg mewn llefydd eraill:
“…yng Ngwynedd, mae polisi addysg o ran y Gymraeg lle mae 100 o ysgolion prif ffrwd, ac mae’n dweud eu bod i gyd yn ddwyieithog, ond mewn gwirionedd, pan fyddan nhw’n dweud dwyieithog, dyna sut maen nhw’n ei steilio; mewn mannau eraill yng Nghymru credaf y byddem yn galw’r ysgolion hynny yn rhai Cyfrwng Cymraeg,” meddai.
“Yn ogystal, mae ganddynt y polisi hwn o [beidio] cael gwersi Saesneg nes saith neu wyth oed. Ac os ydych yn yr ardal honno a bod llawer o swyddi hanfodol yn yr iaith Gymraeg mewn mannau eraill yng Nghymru, yna … efallai y bydd nifer uwch o’r rheini’n symud i gymryd y swyddi Cymraeg hanfodol hynny mewn mannau eraill.”
Diffyg addysg Saesneg ar fai?
Aeth ymlaen i ddweud bod diffyg addysg Saesneg hefyd yn cyfrannu at y broblem. Mae teuluoedd di-Gymraeg y sir, meddai, yn symud i ffwrdd am nad oes addysg cyfrwng Saesneg ar gael i’w plant, ac eraill yn meddwl dwywaith am symud yno’n barhaol am yr un rheswm:
“Yn yr un modd, os oes gennych bobl sydd am gael addysg cyfrwng Saesneg i’w plant, ac nad ydynt yn gallu ei chael yng Ngwynedd … mae rhai o’r bobl hynny, yna, yn symud i ffwrdd, ac nid oes ganddynt brif breswylfa yno mwyach, ac mae rhai o’r cartrefi hynny unwaith eto’n cael eu defnyddio gan berchnogion ail gartrefi,” meddai.
“Efallai fod pobl eraill, sy’n symud i mewn efallai o ardal drefol mewn mannau eraill, dros amser, yn edrych i symud yno’n barhaol, ond mewn rhai achosion ni fyddant yn symud yno’n barhaol fel prif breswylfa nes bod eu plant wedi gorffen yr ysgol, oherwydd mae’n dipyn o rwystr i bobl ddod draw i’w plant gael dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg… dylai Cyngor Gwynedd edrych ar ei pholisïau a’r effaith y mae hynny’n ei chael…”
‘Bychod dihangol’
Yr awgrym, felly, yw bod pobol yn gadael y sir oherwydd yr iaith, bod hynny’n arwain at ddiboblogi, a bod hynny yn ei dro yn rhoi cyfle i brynwyr ail gartrefi. Yn ddiweddarach mi safodd cornel y perchnogion.
“Mi fuaswn i’n dweud, os edrychwch chi ar ardaloedd gwledig, bod problem wedi bod, a dweud y gwir, dros rannau helaeth o Ewrop o ran diboblogi,” meddai.
“Ac mae rhai o’r ardaloedd rheiny wedi profi lefelau cynyddol o berchnogaeth ail-gartrefi, yn rhannol oherwydd bod rhai yn gadael yr ardaloedd rheiny ond yn cadw eiddo yno – wrth fyw fan arall.
“A dw i’n credu bod perchnogion tai haf yn cael eu trin fel bychod dihangol, ac rydym wedi gweld rhywfaint o hynny yn ystod yr argyfwng Covid.”
Ysgolion
Yn ddiweddarach dywedodd y dylai bod gan gynghorau “yr hawl i benderfynu eu polisïau ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgol”.
Ac ategodd y dylai bod yna “gyllid ar gael i ysgolion rhydd fel bod gan bobol a rhieni ddewis” – hynny yw, fel eu bod yn medru dewis peidio cael eu dysgu trwy’r Gymraeg.
Dyw ysgolion rhydd ddim yn bodoli yng Nghymru. Mae ysgolion rhydd Lloegr yn cael eu hariannu gan y wladwriaeth ond nid oes yn rhaid iddyn nhw ddilyn cwricwlwm cenedlaethol.
“Dw i’n dymuno’r gorau i’r deisebwyr, ond dw i ddim yn credu eu bod trin perchnogion ail gartrefi yn fychod dihangol yn foesol gywir,” meddai wedi hynny.
Cyfraniad Gweinidog y Gymraeg
Yn ystod y ddadl bu Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, yn siarad ar ran y Llywodraeth.
Dywedodd ei bod yn “ymwybodol iawn o’r teimladau cryf, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, am ail gartrefi”, ac mi wfftiodd yr honiad bod y Llywodraeth heb weithredu yn y maes.
Yn ymateb i feirniadaeth gan yr AoS Plaid Cymru, Delyth Jewell, mi dynnodd sylw at waith diweddar i’r maes gan yr academydd, Dr Simon Brooks.
Un o brif gasgliadau’r adroddiad yw bod y broblem ail gartrefi yn ffenomen ranbarthol a lleol yn bennaf – yn hytrach nag un cenedlaethol.
“Gobeithio y bydd Delyth Jewell, er enghraifft, yn nodi yn adroddiad Dr Brooks y byddai fe’n anghytuno nad yw hon yn broblem sydd yn genedlaethol, ei bod hi yn nodweddiadol yn lleol, ac mae lot o ystadegau gydag e yn dangos hynny,” meddai.
Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ymateb i hyn, gan ddadlau mai “argyfwng cenedlaethol” yw problem ail gartrefi Cymru.
“Argyfwng cenedlaethol”
“Wrth awgrymu mai problem i rai ardaloedd yng Nghymru yn unig ydi’r argyfwng tai, mae’r Gweinidog yn tanddatgan difrifoldeb yr argyfwng,” meddai Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Elin Hywel.
“Boed hynny drwy anwybodaeth neu ddiffyg arweinyddiaeth, nid yw hyn yn gywir: mae’n argyfwng cenedlaethol.
“Mae’r argyfwng tai yn amlygu ei hun yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd, ond mae’n bodoli ar draws Cymru.
“Ac mae natur y broblem – marchnad agored sy’n blaenoriaethu cyfalaf yn hytrach na chartrefi – yn golygu fod angen ymyrraeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ar frys er mwyn taclo’r argyfwng.
“Heb ymyrraeth genedlaethol o’r fath hon ar ran pobl Cymru, does dim ffordd y gallwn unioni’r argyfwng.”