Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi croesawu penderfyniad y Swyddfa Gartref i gau Gwersyll Penalun yn Sir Benfro.
Bydd yr holl ffoaduriaid yn cael eu symud o’r gwersyll erbyn dydd Sul (Mawrth 21).
Wythnos diwethaf, roedd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn, wedi galw am gau’r gwersyll ar unwaith yn dilyn adroddiad damniol gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, a Phrif Arolygydd Annibynnol y Ffiniau a Mewnfudo.
Ynghyd â diffyg rhagofalon Covid-19, roedd pryderon ynghylch diogelwch tân ac amodau byw’r safle.
Daeth yr arolygwyr i’r casgliad nad oedd gan y rheolwyr y profiad na’r gallu i redeg gwersyll mawr o’r fath, ac nid oedd y Swyddfa Gartref wedi sicrhau goruchwyliaeth briodol dros y safle.
“Balch iawn” fod synnwyr cyffredin wedi ennill
“Rwyf yn falch iawn i glywed y cyhoeddiad heddiw, a bod y gwersyll ym Mhenalun yn cau o’r diwedd,” meddai Dafydd Llywelyn.
“Mae’n rhyddhad nid yn unig i’r preswylwyr ym Mhenalun a’r ardal gyfagos, ond i’r ffoaduriaid sydd yn y gwersyll.
“Rwyf yn ddiolchgar i’r asiantaethau sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud y gorau o’r sefyllfa.
“Gobeithiaf fod y Swyddfa Gartref wedi dysgu gwers am bwysigrwydd cyfathrebu â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol,” ychwanegodd.
“Rwyf wedi gweld yr amgylchiadau anodd oedd yn wynebu’r preswylwyr ar y safle. Fe wnaeth darganfyddiadau’r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos diwethaf amlygu’r ofnau a’r pryderon wnes i, a rhanddeiliaid lleol eraill, godi gyda’r Swyddfa Gartref ar sawl achlysur.
“Rwy’n falch bod synnwyr cyffredin wedi ennill, a bod cynlluniau mewn lle i adleoli’r ffoaduriaid mor gynnar ag wythnos nesaf, a bod y gwersyll yn cau am byth.”
“Nid yw’n syndod”
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi croesawu’r newyddion, hefyd.
“Nid yw’n syndod bod y gwersyll yn cau yn dilyn yr adrodd damniol oedd yn dangos bod yr amgylchiadau yn beryglus a gofidus i’r preswylwyr yno. Nid oedd yn gadael dim dewis i’r Swyddfa Gartref, heblaw am gau’r safle,” meddai Alistair Cameron, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar gyfer sedd Gorllewin Caerfyrddin a de Sir Benfro yn y Senedd.
“Mae’n hanfodol fod y Swyddfa Gartref yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynnig llety sâff, diogel, a gweddus y byddai unrhyw un ohonom ni’n ei ddisgwyl petawn ni mewn sefyllfa debyg.”
“Rwyf yn gwybod fod y profiad yma wedi bod yn un anodd iawn i nifer o breswylwyr y gwersyll, a bod nifer ohonynt wedi dioddef iselder a gorbryder yn y llety – llety nad oedd yn addas ar gyfer defnydd tymor hir. Dymunaf y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.
“Yn benodol, mae’n rhaid iddynt gysylltu â thrigolion lleol a gwasanaethau er mwyn asesu effaith eu cynlluniau ar wasanaethau’r ardal, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae llai o adnoddau.”