Mae Boris Johnson dan y lach am dorri’n ôl ar gymorth tramor ar y naill law, a pharatoi I gynyddu stoc arfau niwclear y Deyrnas Unedig ar y llaw arall.

Roedd adolygiad polisi tramor y Prif Weinidog wedi ymroi i adfer ymrwymiad i wario 0.7% o incwm gwladol gros y wlad ar gymorth, pan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu hynny, ond nid oedd yn gosod dyddiad pendant.

Cafodd yr ymrwymiad hwn ei anwybyddu ym mis Tachwedd, wrth i’r Deyrnas Unedig wario 0.5% o’i incwm ar gymorth yn 2021.

Ar yr un pryd, mae’r Adolygiad Cyfunol ar Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor wedi cynyddu nifer yr arfau niwclear y gall y Deyrnas Unedig fod yn berchen arnynt i 260.

Roedd disgwyl i’r ffigwr ddisgyn i uchafswm o 180 erbyn canol y degawd.

Blaenoriaethau yn “gwbl anghywir”

“Mae cynyddu stoc arfau’r Deyrnas Unedig, wrth dadlau ein bod ni methu fforddio i gwrdd â’n haddewidion i bobol dlotaf y byd yn dangos bod blaenoriaethau’r Llywodraeth yn gwbl anghywir,” meddai Danny Sriskandarajah, Prif Weithredwr Oxfam GB.

“Dyma’r ffordd gwbl anghywir i ddangos Prydain fyd-eang ar lwyfan y byd.”

“Mae’r adroddiad yn dweud un peth, tra bod y Llywodraeth yn gwneud rhywbeth arall,” meddai Romilly Greenhill, cyfarwyddwr mudiad gwrth-dlodi One yn y Deyrnas Unedig.

“Newid hinsawdd, afiechydon, anghyfiawnder, ac ansefydlogrwydd yw’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r wlad nawr, ond rydym ni’n cwffio brwydrau ddoe drwy ddarganfod arian i dalu am arfau.”

“Parhau i arwain y byd”

Mae Boris Johnson wedi mynnu fod y Deyrnas Unedig yn gwneud buddsoddiadau cymorth “anferth”, ac awgrymodd fod gan y wlad hawl i fethu’r targed o 0.7% yn sgil yr “amgylchiadau arbennig” sydd wedi’u hachosi gan y pandemig.

Golyga hyn nad oes rhaid cael pleidlais i newid y ddeddf.

Yn ôl yr Adolygiad Cyfunol, “bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i arwain y byd ar ddatblygiadau rhyngwladol, a byddwn ni’n dychwelyd at yr ymrwymiad o wario 0.7% o incwm gwladol gros y wlad ar ddatblygiadau pan fydd y sefyllfa gyllidol yn caniatáu.”

“Os yw Prydain fyd-eang yn golygu unrhyw beth, ni all olygu gwerthu arfau i Saudi Arabia, a lleihau’r cymorth i Yemen,” meddai Sir Keir Starmer.