Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi croesawu cefnogaeth llywodraethau Cymru ac Iwerddon i rwydwaith o dan eu harweiniad sy’n meithrin cysylltiadau agosach rhwng y ddwy wlad.
Mae’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN) yn gydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon, a gafodd ei sefydlu er mwyn cefnogi gwaith ymchwil a datblygu mewn busnesau gwyddorau bywyd bach a chanolig yng ngorllewin Cymru, a dwyrain a de Iwerddon.
Yn ddiweddar, cafodd sylw ei roi i’r Rhwydwaith mewn datganiad ffurfiol a gafodd ei lunio i gynyddu cydweithrediad rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon, a’u partneriaid yn y sectorau busnes, chwaraeon a chymunedau, a’r celfyddydau.
Yn y ddogfen, ceir addewid i hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon drwy CALIN.
Ers i CALIN gael ei sefydlu yn 2016, mae Abertawe a’r pum prifysgol arall sy’n bartneriaid ynddo – Coleg Prifysgol Dulyn, Sefydliad Tyndall, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Galway, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd – wedi helpu mwy na 150 o gwmnïau, ac wedi sefydlu 40 o brosiectau cydweithredol byrdymor a thymor canolig.
Mae’r fenter yn clustnodi prifysgol o Gymru a phrifysgol o Iwerddon i gydweithio â busnes bach neu ganolig i gyflwyno datblygiadau ym maes gwyddorau bywyd.
O ganlyniad i gymorth CALIN, mae busnesau wedi buddsoddi mwy na phum miliwn ewro mewn mentrau ymchwil a datblygu, gan greu 20 o swyddi newydd.
“Hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol”
“Ymysg ei nodau cyffrous niferus, mae’r cynllun gweithredu hwn yn ceisio hyrwyddo cydweithrediad diwydiannol yn niwydiannau gwyddorau bywyd Cymru ac Iwerddon,” meddai Cyfarwyddwr Strategol CALIN, yr Athro Steve Conlon, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
“Rydym yn falch bod CALIN wedi cael ei gydnabod fel cyfrwng i wneud hynny. Rydym wedi profi y gallwn sefydlu a chefnogi mentrau a datblygiadau newydd.
“Bydd sêl bendith y ddwy lywodraeth yn ein helpu i barhau i wneud hyn ac i fynd o nerth i nerth yn y maes hwn.”