Mae Heddlu Gwent yn rhan o gynllun newydd lle bydd tagiau GPS yn cael eu gosod ar ladron i olrhain eu symudiadau pan gânt eu rhyddhau o’r carchar.

Daw hyn mewn ymgais i leihau aildroseddu.

Bydd y tracwyr yn monitro’r troseddwyr 24 awr y dydd am hyd at flwyddyn mewn prosiect peilot y mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) wedi’i ddisgrifio fel “y cyntaf o’i fath yn y byd”.

Mae mwy na hanner y rhai sy’n cael eu troseddu am ddwyn a bwrgleriaeth yn troseddu eto o fewn blwyddyn ac mae bron i 80% o achosion heb gael eu datrys, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Dywedodd Kit Malthouse AS, y Gweinidog Troseddu a Phlismona:

“Bydd tagio troseddwyr fel hyn yn ein galluogi i wybod ble maen nhw’n 24 awr y dydd yn berswâd pwerus i newid eu ffyrdd a byddwn yn helpu’r heddlu i ddod o hyd iddyn nhw a’u harestio.

“Mae’n arf arall sy’n helpu’r heddlu i leihau troseddu a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:

“Mae’n ffaith bod 51% o’r rhai a gafwyd yn euog o ddwyn, gan gynnwys bwrgleriaeth, a 29% o’r rhai a gafwyd yn euog o ladrad yn aildroseddu o fewn blwyddyn i’w rhyddhau.

“Bydd y cynllun peilot hwn yn rhwystr i’r bobol hynny sy’n defnyddio’r math hwn o drosedd fel ffordd o fyw, a bydd hefyd yn caniatáu i swyddogion weithredu’n gyflym.

“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a rhoi sicrwydd i’n holl gymunedau, drwy weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi gallwn leihau troseddu ac atal troseddwyr rhag elwa o droseddu.”