Mae Llywodraethau Cymru a Phrydain wedi rhoi sêl bendith i brosiect ‘Pentre Awel’ yn Llanelli sydd werth £40 miliwn.

Bu’r cynllun ar gyfer y pentref llesiant yn destun dau adolygiad ddwy flynedd ynghynt, gan gasglu bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymddwyn yn “briodol”.

Mae Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi croesawu’r cyhoeddiad diweddaraf, gan ddweud ei fod yn sicrhau dyfodol y prosiect ac yn dod â manteision i bobol Llanelli a Sir Gaerfyrddin.

Pentre Awel fydd y datblygiad cyntaf o ran ei sgôp a’i faint yng Nghymru, yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd yn cyfuno gwyddorau bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden i gyd mewn un lleoliad ar hyd arfordir Llanelli, tra hefyd yn gartref i dimau o wyddonwyr a busnesau newydd.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys llety byw â chymorth, ynghyd â chartref gofal, gwesty, ac elfennau o dai ar y farchnad agored a thai cymdeithasol a fforddiadwy.

Mae’r prosiect yn cynnwys cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol, er mwyn galluogi’r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â’r nod o wella byw’n annibynnol a byw â chymorth.

Bydd canolfan sgiliau llesiant yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, yn ogystal â chanolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref.

Hwb o £467 miliwn i’r economi leol

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dweud y bydd y datblygiad yn dod ag amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith gan greu bron i 2,000 o swyddi gan gynnwys prentisiaethau, ac mae disgwyl iddo roi hwb o £467 miliwn i’r economi leol.

Bydd Pentre Awel yn cael ei godi gan Gyngor Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a phrifysgolion a cholegau lleol.

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau’r hydref hwn, ar ôl penodi prif gontractwr.

“Y newyddion y buom yn aros amdano”

Dywedodd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Dyma’r newyddion y buom yn aros amdano ac mae’n golygu y gallwn ddechrau ar y gwaith o gyflawni’r datblygiad cyffrous hwn ar gyfer dyfodol Llanelli a Sir Gaerfyrddin ac er budd ein preswylwyr.

“Bydd yn trawsnewid y ddarpariaeth o ran gwasanaethau iechyd a llesiant yn lleol, yn dod â swyddi a sgiliau newydd i bobl leol ac yn hybu enw da’r ardal drwy arloesi ffyrdd newydd o feddwl am lesiant ar gyfer yr 21ain ganrif.

“Mae hwn yn ddatblygiad hollol unigryw, ac mae arloesi’n rhan ganolog ohono. Bydd Pentre Awel yn dod â holl elfennau’r maes iechyd modern at ei gilydd, gan ddarparu gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern i gyd mewn un lle.

“Bydd y prosiect hwn yn rhoi Llanelli a Sir Gaerfyrddin ar y map fel enghraifft fyd-eang o arfer gorau, gan ddenu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad yn yr ardal a helpu’r economi leol i wella o effaith y pandemig.”