Mae’r Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throsedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn credu y gallai rhannau o’r Bil Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a Llysoedd “fynd yn groes i hawliau dynol, pe bai rhai penderfyniadau penodol yn cael eu gwneud ynglŷn â beth i’w erlyn”.

Yn ôl y cyn-gyfreithiwr, mae’r Bil hefyd yn dangos un o “wendidau sylfaenol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig”, sef bod posib creu deddfau sy’n mynd yn groes i hawliau dynol.

Aeth y Bil drwy ei ailddarlleniad yn San Steffan ddechrau’r wythnos, ac mae aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr eisoes wedi rhybuddio y gallai fod yn fygythiad i ddemocratiaeth.

“Mae’r Bil yn gwneud llawer iawn o bethau, mewn llawer iawn o feysydd sy’n berthnasol i gyfraith droseddol, a sut rydym ni’n delio gyda throseddwyr,” eglura Emyr Lewis wrth golwg360.

Ymhlith y pethau hyn, mae’n cynnwys cynlluniau i roi rhagor o bwerau i’r heddlu allu ymateb i brotestiadau heddychlon sy’n amharu ar y cyhoedd neu ar fynediad i’r Senedd.

“Y rhan o’r Bil sydd wedi peri’r mwyaf o ofid, efallai, ydi Rhan 3 sy’n delio gyda materion sy’n ymwneud â threfn gyhoeddus – yn arbennig mewn perthynas â phrotestiadau, gorymdeithiau, neu gynulliadau – a’r adrannau sy’n creu trosedd newydd, sef achosi ‘niwsans cyhoeddus bwriadol neu ddi-hid’,” meddai Emyr Lewis.

“Mae’r fath beth yn bodoli ar hyn o bryd fel trosedd dan y gyfraith gyffredin – niwsans cyhoeddus.”

Er nad yw’r drosedd yn cael ei herlyn yn aml gan fod gwahanol droseddau penodol wedi dod i rym sy’n ymwneud â’r mater, yn ôl Emyr Lewis, “mae’r drosedd dal i fodoli.”

“Mae’r rhan yma o’r bil yn bwriadu gwneud ‘niwsans cyhoeddus bwriadol neu ddi-hid’ yn drosedd statudol, ond mae yna lot o bethau yn ei gylch sy’n aneglur ac yn peri ychydig o ofid.”

Hawl i ymgynnull yn hawl dynol

“Rhaid cofio bod yr hawl i ymgynnull a’r hawl i fynegi eich barn yn hawliau sy’n cael eu diogelu gan Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop, ac wedi’u hadlewyrchu yn Neddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig,” pwysleisia Emyr Lewis.

“Felly, y larwm cyntaf sy’n seinio ym mhen dyn ydi – dyma i ni ddarpariaethau statudol newydd sy’n darparu cyfyngiadau, neu amodau newydd, ar y rhyddid yma i ymgynnull, a mynegi barn mewn cyd-destun torfol.

“Mae yna gyfreithiau eraill sy’n galluogi rheoli gorymdeithiau a chynulliadau cyhoeddus drwy osod amodau arnyn nhw. Ond, mae’r ddeddf yma yn ychwanegu amodau y gellir eu gosod ar gynulliadau a gorymdeithiau,” eglura.

“Mae’r ddau amod newydd yn ymwneud â faint o sŵn sy’n cael ei greu, pa mor swnllyd ydi’r brotest, gorymdaith neu gynulliad.

“Y cyntaf yw bod sŵn y bobol sy’n cymryd rhan yn un a allasai beri tarfu difrifol ar weithredoedd ryw ‘organisation’ sy’n ardal y brotest. Gallai ystyr ‘organisation’ yma fod yn cyfeirio at unrhyw beth – heblaw unigolyn – mae’n sôn am gwmni neu, o bosib, am rannau o’r Llywodraeth.

“Mae hyn yn ymwneud ag ymyrryd, mewn modd difrifol, ar allu pobol i wneud yr hyn maen nhw’n dymuno ei wneud.

“Mae’r ail amod yn ymwneud â chael effaith berthnasol ar unigolyn, ac mae’n rhaid i’r effaith honno fod yn un sylweddol.

“Beth ydi ystyr ‘effaith berthnasol, sylweddol’? Pan fydd person yn teimlo iddo gael braw, neu yn cael ei ymyrryd arno.

“Neu, a dyma le, efallai, mae problem fawr, ‘it may cause such persons to suffer serious unease, alarm or distress.

“Gallwch chi ddychmygu sefyllfa lle mae gennych chi brotest yn erbyn Llywodraeth, ac mae sŵn mawr yn mynd heibio swyddfeydd y Llywodraeth a phawb yn gweiddi am un o’r gweithwyr – mae hynny’n mynd i achosi ‘unease, alarm, or distress‘ i’r person hwnnw.

“Ydyn ni’n dechrau mynd lawr llwybr lle mae’r math yna o ymddygiad yn cael ei ystyried yn drosedd?

“Mae un person wedi awgrymu, efallai ein bod ni’n newid yr hawl i brotestio, i fod yn hawl i sibrwd mewn cornel. Dw i’n credu bod hwnnw yn ddweud eithaf da.

“Chewch chi ddim gweiddi ar lafar, ond gewch chi ddweud yn dawel mewn cornel.”

Deddfwriaeth “eang” i ddelio â phroblemau penodol

Mae posib gweld sut bod y rhannau hyn o’r Bil yn gallu cael eu defnyddio, meddai Emyr Lewis, er enghraifft “tasa rhywun yn gweiddi sloganau hiliol neu homoffobic, ond mae yna droseddau eraill yn delio â hynny beth bynnag.

“Y broblem, fel sy’n digwydd yn aml gyda deddfwriaeth, yw bod y ddeddfwriaeth yn cael ei drafftio mewn ffordd eang, er mwyn ceisio delio â phroblemau penodol.”

Gallai hyn arwain at wneud materion yn droseddau, pan nad ydym ni’n credu y dylen nhw fod yn anghyfreithlon, yn ôl yr Athro.

“Mae hyn yn rhywbeth cyffredin,” ychwanega.

“Er bod rhai Aelodau Seneddol yn protestio yn erbyn biliau o’r fath, fel digwyddodd y tro hwn, mae’r Llywodraeth yn eu cysuro drwy ddweud ‘peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn bwriadu defnyddio’r ddeddf fel hyn’.

“Os felly, dywedwch hynny yn y ddeddf.

“Be sy’n digwydd pan ddaw Llywodraeth arall i rym sydd, efallai, ddim mor ofalus â chi? Sydd, efallai, yn llai rhyddfrydol eu hagwedd? Be sy’n digwydd os yw’r ddeddf yma yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd gan lywodraeth nad sy’n parchu’r un ffiniau, a bod y ddeddf ddim yn dweud bod rhaid parchu’r ffiniau hyn?”

Dangos un o “wendidau sylfaenol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig”

“Mae hyn yn dangos un o wendidau sylfaenol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, sef bod modd i Senedd Llundain newid a chreu deddfau sy’n mynd yn groes i hawliau dynol, a’u bod nhw’n ddilys er gwaethaf hynny,” meddai Emyr Lewis.

“Does gennym ni mo’r sylfaen yn y Deyrnas Unedig i ddweud na all y Senedd deddfu mewn ffordd sy’n mynd tu hwnt i ddeddfau hawliau dynol.

“Nid yw Seneddau Cymru na’r Alban, ar y llaw arall, yn gallu creu deddfau sy’n tanseilio hawliau dynol, mae’r ddeddfwriaeth sydd wedi’u creu nhw yn dweud hynny.

“Mae’n gwestiwn a ydi’r union ddarpariaethau hyn yn mynd yn groes i hawliau dynol, ac mae’n fwy tebygol eu bod nhw’n rhai a allai fynd yn groes i hawliau dynol pe bai rhai penderfyniadau penodol yn cael eu gwneud ynglŷn â beth i’w erlyn.”

“Ceisio cysoni’r anghysonadwy”

Ychydig iawn o effaith y byddai’r ddeddf yn ei chael yn yr Alban, meddai Emyr Lewis, gan fod Trosedd a Chyfiawnder wedi’i ddatganoli yn llwyr yno, fwy neu lai.

“Dydi o ddim yn fater sydd wedi cael ei gadw gan Senedd Llundain, er eu bod nhw dal yn gallu deddfu yn y maes hwnnw – a deddfu yn groes i Senedd yr Alban. Ar y cyfan dydyn nhw ddim yn gwneud hynny.”

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli pwerau Cyfiawnder i Gymru’r wythnos hon.

“Petasai Cymru’r un fath â’r Alban, yna byddai Cymru yn gallu deddfu ar y materion hyn, ond dydyn nhw ddim. Am y rheswm bod y gyfundrefn gyfiawnder wedi’i chadw yn ôl i San Steffan, a hynny, medden nhw, oherwydd bod gyda ni un awdurdod cyfreithiol ar gyfer Cymru a Lloegr,” eglura Emyr Lewis.

“Yn fy marn i, mae hynny yn nam sylfaenol yn y setliad datganoli Cymreig.

“Hyd nes bod [datganoli’r cyfrifoldeb am Gyfiawnder i Gymru] yn digwydd, rydym ni’n sownd yn system Gyfiawnder Llundain, felly waeth beth rydym ni’n protestio drosto – boed yn fater datganoledig, neu ddim – y gyfraith sy’n rheoli pwerau’r heddlu ydi’r gyfraith yma.

“Mae hi’n sefyllfa sydd, bron â bod yn reddfol, yn ymddangos yn anghywir. Mae fel petasai’r gwleidyddion a’r cyfreithwyr yn ceisio cysoni yr anghysonadwy.

“Mae’r grym yn bodoli yn Llundain, mewn ffordd nad ydi o’n bodoli mewn perthynas â’r Alban na Gogledd Iwerddon.”

Protestio yn hawl “hollol sylfaenol mewn democratiaeth,” yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr wedi rhybuddio fod y Bil newydd yn “fygythiad i ddemocratiaeth”