Bydd YesCymru yn lansio ‘Gŵylia’ dros y penwythnos, sef cyfres o drafodaethau am annibyniaeth i Gymru fydd yn cael eu cynnal ar-lein dros gyfnod o flwyddyn.

Cyn covid, roedd gorymdeithiau’r mudiad sy’n brolio 18,000 o aelodau, wedi denu miloedd i strydoedd trefi Merthyr a Chaernarfon, a’r brifddinas.

Ond oherwydd y corona, mae’r ymgyrchu wedi symud ar-lein.

Fel rhan o’r ŵyl newydd, bydd trafodaethau yn rhoi sylw i anghydraddoldeb, sgiliau ymgyrchu, cydraddoldeb i’r rhywiol, Bywydau Du o Bwys, a chynrychiolaeth LHDTQ+.

Tori West fydd yn arwain ‘Gŵylia’ dros y penwythnos, a bydd y digwyddiadau yn cynnwys sesiynau gan y bardd Sarah McCreadie, dangosiad ffilm gan Gavin Potter, a bydd Neville Southall ac Eddie Butler yn ymuno.

Bydd y nos Sul yn gorffen gyda chomedi gan Lorna Prichard a gwesteion arbennig, sef Steffan Alun, Leroy Brito a Priya Hall, wedi’i drefnu gan Stand Up for Wales.

Yn y dyfodol, bydd digwyddiadau yn canolbwyntio ar adeiladu economi gref, yr hinsawdd, byd natur, iechyd, iaith a diwylliant, y gymuned, a chydweithredu rhyngwladol.

Drwy agor fforymau ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â chyfarfodydd ar-lein, bydd mynychwyr yn gallu amlinellu’r math o Gymru maen nhw am ei gweld, a darganfod sut y gall hyn ddod yn realiti drwy annibyniaeth, meddai’r trefnwyr.

Fel mudiad sy’n cael ei ariannu drwy’r aelodaeth, bwriad YesCymru gyda Gŵylia yw ceisio sicrhau bod y Gymru annibynnol yn un sy’n deillio o ddymuniadau’r bobol.

“Ni all neb aros nes bydd y pandemig drosodd”

Erbyn hyn mae gan YesCymru 18,000 o aelodau, ac mae polau piniwn yn dangos bod lefelau ymddiriedaeth y cyhoedd yn San Steffan yn isel.

“Mae hyn yn dangos bod mwy a mwy o bobol yn credu nad oes rhaid i Gymru fod yn ddibynnol nac o dan reolaeth San Steffan yn y dyfodol,” meddai Cian Ciaran, Dirprwy-Gadeirydd YesCymru, ac aelod amlwg o’r Super Furry Animals.

“Mae pobol ar draws y Deyrnas Unedig yn flin efo’r ffordd mae Llywodraeth San Steffan wedi, ac yn mynd i, fethu blaenoriaethu llesiant y boblogaeth, wrth i’r pandemig a Brexit amlygu eu diddordebau a’u galluoedd.

“Os yw pethau am newid er mwyn rhoi buddion Cymru gyntaf, ni all neb aros nes bydd y pandemig drosodd er mwyn cael cyfarfod ac ymgyrchu yn sâff eto.

“Mae Gŵylia yn broses o drafodaethau uchelgeisiol, fydd yn para blwyddyn, er mwyn helpu i siapio sut mae’r dyfodol yn edrych ar gyfer y symudiad annibyniaeth.

“Mae symud ein cynlluniau ar-lein yn hanfodol, ac yn gyfle wrth i Covid-19 agor y drws tuag at chwyldro digidol yng Nghymru.”