Mae Llywodraeth Cymru am wario £53 miliwn ar gynlluniau i gael mwy i gerdded a beicio ar ddechrau 2021, gyda dros £20 miliwn o wariant yn ddiweddarach eleni.

Yn ôl y Llywodraeth, fe fydd eu cynllun ‘Llwybr Newydd’ yn arwain at “gynnydd beiddgar yn y nifer sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio”.

Caiff yr arian ei wario ar 44 o gynlluniau dan ofal cynghorau sir, gyda gwario ar greu llwybrau cerdded a seiclo diogel i ysgolion.

Drwyddi draw mae’r Llywodraeth yn gwario £210 miliwn ar strategaeth drafnidiaeth newydd.

Mwy o wario ar ‘deithio llesol’

“Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gallu cynyddu y swm rydym yn ei wario ar deithio llesol yn sylweddol, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â’r weledigaeth a amlinellwyd gennym yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd,” Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Cyn sefydlu’r Gronfa Teithio Llesol, bu’n rhaid i brosiectau teithio llesol nad oeddent yn canolbwyntio ar ysgolion gystadlu am gyllid grant trafnidiaeth leol cyffredinol, heb gyllideb benodol. Mae’r Gronfa Teithio Llesol wedi cynyddu ers 2018 o’i £10m cychwynnol i £70m ar gyfer 2021/22.

“Mae parhau â’n cyllid i greu llwybrau diogel i ysgolion yn arbennig o bwysig gan ein bod yn gwybod bod ymgorffori arferion teithio iach yn gynnar yn arwain at fanteision parhaol.

“Bydd ein buddsoddiad yn arwain at drefi a dinasoedd sydd wedi’u cysylltu’n well ac yn cyfrannu at ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd, gwella iechyd y cyhoedd a glanhau ansawdd yr aer.”