Mae pwysau ar i gwmni ocsiwn ohirio gwerthiant hen gapel ym mhentref Pistyll, ger Nefyn, er mwyn rhoi digon o amser i grŵp cymunedol gasglu pres i wneud cais i brynu’r eiddo.
Mae hen gapel Bethania, Pistyll, i fod i fynd i ocsiwn ddydd Mercher nesaf (24 Mawrth).
Ond mae trigolion yn pryderu ei fod yn cael ei werthu fel cyfle i’w ddatblygu yn dŷ haf.
Dywedodd ymgyrchwyr y dylai’r adeilad hanesyddol fod mewn dwylo cyhoeddus a hyd yma maen nhw wedi codi £2,000 o darged o £120,000 tuag at yr achos drwy safle GoFundMe
Mae’r capel yn cynnwys cofeb i’r bardd a’r pregethwr ‘Tom Nefyn Williams’.
Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, eisiau gweld y gymuned leol yn cael cyfle i brynu’r capel
“Wrth i ni weld ein cymunedau yn dioddef yn sgil y niferoedd o ail dai a thai gwyliau, dyma hen adeilad o bwys diwylliannol yn lleol yn cael ei werthu fel cyfle i ddatblygu tŷ gwyliau arall,” meddai.
“Mae yna ymgyrch ar y gweill er mwyn i grŵp cymunedol roi cais i brynu’r eiddo.
“Mae’n rhaid iddyn nhw gael yr amser angenrheidiol i hyrwyddo eu hymgyrch, felly dylid gohirio’r arwerthiant.”
“Caniatáu tŷ gwyliau yn unig”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor: “Rwy’n deall fod y caniatâd cynllunio yn caniatáu tŷ gwyliau yn unig, a hynny oherwydd polisïau cynllunio sy’n cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru.
“Byddai’n dda gweld grŵp cymunedol yn cymryd perchnogaeth o’r eiddo ac yn rhoi’r pres allan o unrhyw fenter yn ôl i ddatblygu tai i’r gymuned.
“Mae’r achos yn codi cwestiynau pellach ynghylch polisïau cynllunio Llywodraeth Lafur Cymru.
“Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro fod angen cyfyngu ar y nifer o ail dai a thai gwyliau mewn ardaloedd lle mae yna ganran sylweddol yn bodoli.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar hyn fel opsiwn.”