Fe fydd teuluoedd yng Nghymru sy’n colli plentyn yn derbyn £500 tuag at gostau angladdol o ddechrau’r mis nesaf ymlaen.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd unrhyw un a fydd yn cofrestru marwolaeth plentyn o dan 18 yn cael gynnig y swm.
“Mae arnom eisiau cynnig cefnogaeth ymarferol a thrugarog i deuluoedd ar adeg anodd y tu hwnt i bob amgyffred,” meddai’r gweinidog tai a llywodraeth leol Julie James.
“Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull a fydd yn ei gwneud mor hawdd ag sy’n bosibl i deuluoedd gael y cymorth pan fyddan nhw ei angen.”
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan AS Llafur Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, sydd wedi ymgyrchu dros fesurau i helpu teuluoedd sydd wedi colli plant.
“Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf i gefnogi fy ymgyrch trwy gael gwared ar daliadau claddu ac amlosgi mewn angladdau plant, gan helpu lliniaru’r pryderon ariannol a wynebir gan rieni sydd newydd golli plentyn,” meddai.
“Mae rhoi taliad o £500 i bob teulu sy’n dioddef colli plentyn yn gweithredu’r caredigrwydd y mae Cymru’n adnabyddus amdano ledled y byd.”