Mae llifau o lafa wedi bod yn goleuo’r awyr yng Ngwlad yr Ia wrth i losgfynydd yn ne-orllewin y wlad ffrwydro am y tro cyntaf ers bron i 800 mlynedd.

Roedd cochni’r awyr yn sgil y ffrwydrad ar losgfynydd Fagradals ar benrhyn Reykjanes i’w weld o’r brifddinas Reykjavik 20 milltir i ffwrdd neithiwr.

Dywed Adran Argyfwng llywodaeth y wlad nad ydyn nhw’n rhagweld yr angen i bobl adael eu cartrefi gan fod y llosgfynydd mewn cwm anghysbell tua milltir a hanner o’r ffordd agosaf.

Roedd llosgfynydd Fagradals wedi bod segur ers 6,000 o flynyddoedd, a does dim ffrwydradau wedi bod ar benrhyn Reykjanes ers 781 o flynyddoedd.

Mae’r ffrwydrad wedi peri syndod i arbenigwyr gan fod gweithgarwch seismig wedi tawelu cyn y ffrwydrad.