Roedd Mick McCarthy eisoes wedi bod yn bêl-droediwr gyda Barnsley ers dwy flynedd pan gafodd Steve Cooper ei eni yn 1979, y flwyddyn pan enillodd McCarthy ei unig gap dros dîm dan 23 Iwerddon.

Caerdydd yw wythfed clwb McCarthy fel rheolwr, ac yntau wedi bod wrth y llyw am fwy na 1,000 o gemau pêl-droed, tra bod Cooper yn ei ail dymor yn ei swydd clwb gyntaf. Mae 20 mlynedd rhyngddyn nhw o ran oedran, ac ugain mlynedd o ran profiad.

Dim ond unwaith mae Caerdydd wedi colli ers i Mick McCarthy gael ei benodi’n rheolwr ganol mis Ionawr yn olynydd i Neil Harris. Yn y cyfnod hwnnw, mae Abertawe wedi colli pedair gêm. Roedd Jamal Lowe yn ei anterth y tro diwetha’ i’r Elyrch herio’r Adar Gleision yng Nghaerdydd fis Rhagfyr, wrth sgorio’r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth o 2-0 i godi ei dîm i’r ail safle yn y Bencampwriaeth, gan wthio’r Adar Gleision i lawr i’r degfed safle.

Dri mis yn ddiweddarach ac mae’r rhod wedi troi. Adeg ei ddwy gôl, roedd Lowe wedi sgorio saith gôl mewn saith gêm. Dim ond dwy gôl mae e wedi’u sgorio ers hynny ac mae’r Elyrch yn ei chael hi’n anodd aros o fewn cyrraedd i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig. Gyda Norwich ar y blaen o dipyn o beth, y realiti yw mai’r Elyrch, Watford a Brentford fydd yn cystadlu am yr ail safle awtomatig ar ddiwedd y tymor. Watford sydd â’r momentwm ar hyn o bryd, gan ennill pedair a cholli un o’u pum gêm flaenorol, er bod yr Elyrch a Brentford wedi ennill eu dwy gêm flaenorol nhw hefyd.

O dan McCarthy, mae’r Adar Gleision wedi sgorio 24 gôl ac wedi ildio naw. Yn yr un cyfnod, mae’r Elyrch wedi sgorio 22 gôl ond wedi ildio 19.

Felly mae’n amlwg pa dîm sydd wedi bod yn perfformio orau. Ond fel mae’r ddau reolwr wedi’i bwysleisio cyn y gêm ddarbi fawr, dydy ystadegau’n golygu dim cyn gemau fel hon. Gallai’r tîm salaf danio fel erioed o’r blaen, a’r tîm mwyaf disglair lithro ar groen banana. Y tîm gorau am y 90 munud ar ôl y gic gyntaf fydd yn mynd â hi.

Steve Cooper

Y ddinas orau…

Y peth pwysicaf i’r naill reolwr a’r llall yn Stadiwm Liberty heno (nos Sadwrn, Mawrth 20) fydd yr hawl i frolio mai eu tîm nhw, eu dinas nhw, sydd orau. Fydd dim ots am weddill y tymor yn yr eiliad honno.

Mae McCarthy wedi bod ynghlwm wrth ei siâr o gemau darbi ar hyd y blynyddoedd – darbis Manceinion, Glasgow, ac fel mae e wedi’i ddweud, “Millwall yn erbyn pawb!” Ond fel Cymro sy’n deall pwysigrwydd darbi de Cymru, fe fyddai buddugoliaeth i Cooper dipyn yn fwy melys, mae’n siŵr.

“Gadewch i ni beidio â’i thanbrisio,” oedd cais Cooper wrth y wasg yr wythnos hon. “Dim ots pryd rydych chi’n chwarae’r gêm, mae safleoedd yn y gynghrair yn mynd allan drwy’r ffenest.”

“Dydych chi ddim yn trio’n galetach oherwydd ei bod hi’n ddarbi,” meddai McCarthy. “Rydych chi’n trio’ch gorau ond mae rhywbeth bach ychwanegol ynghlwm wrth gêm ddarbi. A yw hi’n gêm sy’n rhaid ei hennill? Ydy, i’r cefnogwyr.”

Mick McCarthy

Y cyd-destun ehangach

Ar ôl blwyddyn o fod gartref heb allu mynd i gemau, byddai, fe fyddai’r fuddugoliaeth yn golygu mwy i’r cefnogwyr.

Ond mae ’na wobr fwy o faint ar gael ar ddiwedd y tymor ac er cymaint mae’r ddau reolwr yn ailadrodd o hyd mai un gêm ar y tro yw eu meddylfryd, all neb peidio cyffroi wrth feddwl y gallai’r naill a/neu’r llall gynrychioli de Cymru – wel, Cymru gyfan – yn Uwch Gynghrair Lloegr unwaith eto y tymor nesaf. Fe fu’r Adar Gleision allan ohoni ers Mai 2019, a’r Elyrch ers Mai 2018.

Mae’r ddau glwb wedi dod ynghyd yn ddiweddar i gydweithio er mwyn herio hiliaeth. Ac mae’n rhaid nodi hefyd, flwyddyn ers colli Peter Whittingham, fod pethau pwysicach na phêl-droed weithiau.

Ond fel dywedodd Steve Cooper yr wythnos hon, unwaith fydd y chwiban yn cael ei chwythu i ddechrau’r gêm, pob dyn drosto’i hun fydd hi wedyn. Gwyn neu las, Elyrch neu Adar Gleision, gorllewin neu ddwyrain, hon yw’r un fawr. Does neb wedi gwneud y dwbwl yn y ddarbi o’r blaen, sef dwy fuddugoliaeth yn yr un tymor. Ai bois Steve Cooper fydd y cyntaf, neu a fydd bois McCarthy yn eu hatal nhw?

Y timau

Mae amheuon am ffitrwydd Marc Guehi, amddiffynnwr canol Abertawe, sydd heb chwarae ers iddo fe anafu cesail y forddwyd yn y gêm yn erbyn Blackburn ar ddechrau’r mis. Ond mae Joel Latibeaudiere ar gael i gamu i’r bwlch pe bai angen ar ôl gwella o anaf i’w goes.

Ond dydy Paul Arriola, Tivonge Rushesha na Liam Cullen ddim ar gael o hyd, ac mae hi ychydig yn rhy fuan i’r eilydd o golwr Steven Benda sy’n parhau i wella o anaf i’w ffêr.

O ran Caerdydd, cael a chael fydd hi i Perry Ng, sydd wedi anafu ei ben-glin, tra bod Jordi Osei-Tutu, Joel Bagan a Joe Bennett allan o hyd.

Mae amheuon am Curtis Nelson, tra bod disgwyl i Tom Sang fod ar gael.

Steve Cooper

Abertawe yn llygadu’r cyfle i greu hanes yn erbyn Caerdydd

Edrych ymlaen at ddarbi de Cymru ddydd Sadwrn