Wrth dderbyn ei frechiad AstraZeneca cyntaf neithiwr, manteisiodd y Prif Weinidog Boris Johnson ar y cyfle i annog eraill i wneud yr un fath.

“Pan fyddwch yn cael eich gwahaddiad i fynd am bigiad, ewch amdano,” meddai, wrth adael canolfan frechu Ysbyty St Thomas ar ôl cael ei frechiad neithiwr.

“Dyna’r peth gorau i chi, y peth gorau i’ch teulu ac i bawb arall.”

Roedd eisoes wedi bod yn dadlau bod y brechlyn AstraZeneca yn ddiogel, a chafodd hyn ei gadarnhau gan Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop (EMA) ddydd Iau.

Bellach mae gwledydd gan gynnwys Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal wedi ailgychwyn defnyddio’r brechlyn.