Mae un o olygyddion gwefan newyddion The Telegraph wedi cyhoeddi colofn Gymraeg yn ymosod ar agwedd Arweinydd Ty’r Cyffredin at y Gymraeg.

Roedd Jacob Rees-Mogg wedi cael ei feirniadu’n hallt am gyfeirio at y Gymraeg fel ‘iaith dramor’ a hefyd am ei chymharu ag ‘iaith farw’ fel Lladin. Roedd yn ymateb i gwestiwn am y driniaeth a gafodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, ar ôl cynnwys cyfarchiad Gwyddeleg a Chymraeg mewn cwestiwn.

“Sorry Mr Rees-Mogg, the Welsh language is still very much alive” oedd pennawd erthygl gan Gareth Davies, y golygydd sy’n gyfrifol am newyddion sy’n torri ar y wefan.

O dan gyfieithiad Saesneg, mae’r golygydd yn cychwyn gyda’r geiriau:

“Diwrnod arall, Sais arall yn rhoi’r iaith Gymraeg i lawr.”

Wrth esbonio mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf, dywed Gareth Davies fod byw yn Lloegr ac agweddau pobl fel Jacob Rees-Mogg  wedi caledu ei agwedd:

“Naeth Saesneg ddim dôd trwy fy nrŵs i tan o’n i’n saith mlwydd oed,” meddai. “Doedd dim rheswm i gael e yn y tŷ am fod fy rhieni yn siarad Cymraeg. Darllenon ni yn Gymraeg, gwylion ni teledu Cymraeg, es i i ysgol Gymraeg, chwaraeaes i yn y Gymraeg.

“Yn anfodlon, symudais i’r dwyrain a dros y ffîn a nawr y mae’r ffordd ‘rwy’n meddwl am Gymreictod wedi newid.

“Dyw e ddim wedi gwanhau, ond mae wedi’i gryfhau diolch i sylwadau cas fel rhai Jacob Rees-Mogg yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Fel Cymro yn Lloegr, mae’n annodd i mi ddisgrifio pa mor am-Mhrydeinig rydw i’n teimlo. Mae tri peth sydd bron yn gwneud i mi deimlo’n Brydeinig – taith rygbi’r Llewod, Gemau’r Olympaidd ag ymdrech yr undeb yn ystod y rhyfel.

“Dyw gweddill Prydeinigaeth yn meddwl dim i fi achos ei Saesnigrwydd. Dyw baner yr Undeb ddim hyd yn oed yn cydnabod Cymru – a mae’r ddraig goch gyda ni i gynnig!

“Mae’r datgysylltiad yna yn dân sy’n llosgi’n llachar yng Nghymru, ag sy’n tanio’r Cymro i fod yn fwy Cymreig. Mae’r meddylfryd diog fod yr iaith Gymraeg yn un farw yn anghywir.”

 

Jacob Rees-Mogg mewn dici-bo

“Nid yw’r Gymraeg yn ‘iaith dramor’” – AS yn ymateb i sylwadau Jacob Rees-Mogg

Arweinydd Tŷ’r Cyffredin yn gyndyn i weld gorddefnydd o’r iaith