Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhybuddio’r cyhoedd i beidio â gadael i gêm dyngedfennol y Chwe Gwlad heno arwain at unrhyw ddiofalwch ynghylch lledaenu’r coronafeirws.

“Y penwythnos yma, hoffem annog y cyhoedd yng Nghymru i fwynhau digwyddiadau chwaraeon, fel Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gydag aelodau eu haelwydydd eu hunain yn unig, gan osgoi cwrdd ag eraill, meddai Dr Christopher Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Er bod lefel yr haint ledled Cymru wedi gostwng yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae sawl ardal o hyd sydd â chyfraddau sylweddol uwch.

“Mae’n hanfodol bwysig nad ydym yn colli’r cynnydd sylweddol a wnaed, ac er mwyn amddiffyn pawb, gan gynnwys y rhai sy’n fwyaf agored i niwed, rhaid i bawb gadw at y rheolau.

“Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech fynd i unrhyw gartref arall na chymysgu â phobl eraill nad ydych yn byw gyda nhw.”

Bu chwe marwolaeth arall o’r coronafeirws dros y cyfnod 24-awr diwethaf, gan ddod â’r cyfanswm i 5,482, a chafodd 208 o achosion newydd eu cadarnhau dros yr un cyfnod. Y gyfradd 7-diwrnod ar gyfer Cymru yw 42.

Yn y cyfamser, mae 1,231,830 o bobl wedi derbyn eu dos gyntaf o’r brechlyn, cynnydd o 27,729 yn y diwrnod diwethaf. Mae 329,530 ail ddos hefyd wedi cael ei roi, cynnydd o 10,554.

Daw hyn wrth i Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock, gyhoeddi bod hanner holl drigolion y Deyrnas Unedig wedi cael eu brechiad cyntaf.