Wedi bod yng Nghymru yn torri ei wallt roedd dyn sy’n cael ei amau o yrru 122 milltir yr awr yng Ngwlad yr Haf, yn ôl yr heddlu lleol.
Roedd y car wedi cael ei stopio ger Cyffordd 23 yr M5 gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Iau.
Mae siopau trin gwallt wedi bod â’r hawl i agor yng Nghymru ers dydd Llun, ond maen nhw’n dal wedi cau yn Lloegr.
Mewn trydariad, dywed yr heddlu:
“Fe wnaeth plismyn stopio car yn gyrru 122mya ger Cyffordd 23 yr M5 ddoe. Roedd y gyrrwr yn teithio’n ôl i Gymru ar ôl cael torri ei wallt.
“Cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau ar ôl methu prawf ar ochr y ffordd. Ymholiadau’n parhau.”