Mae Ceidwadwyr yr Alban yn rhybuddio y byddan nhw’n cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Nicola Sturgeon oni bydd wedi ymddiswyddo fel prif weinidog erbyn dydd Mawrth.
Mae Arweinwyr y Torïaid yn senedd yr Alban, Ruth Davidson, yn ei chyhuddo o gamarwain senedd yr Alban ynghylch faint beth hi’n ei wybod am yr honiadau yn erbyn y cyn-brif weinidog Alex Salmond.
Mae’n ymddangos – er nad yw eu hadroddiad wedi ei gyhoeddi’n swyddogol eto – y bydd pwyllgor seneddol sydd wedi bod yn ymchwilio i’r mater yn datgan bod Nicola Sturgeon wedi rhoi adroddiadau ‘anghywir’ am ei chyfarfodydd gyda’i rhagflaenydd.
“Does dim cwestiwn fod Nicola Sturgeon wedi camarwain y sneedd a thorri’r addewidion a wnaeth i ddweud y gwir,” meddai Ruth Davidson.
Dywedodd llefarydd ar ran Nicola Sturgeon fod rhai o aelodau’r gwrthbleidiau yn torri pob rheol mewn ymgais gwbl amlwg ac agored i’w difrodi cyn yr etholiad sydd ar ddod.