Mae gwyliau mewn gwledydd tramor yr haf hwn yn “hynod o annhebygol” yn ôl gwyddonydd sy’n cynghori’r llywodraeth.

Dywed Dr Mike Tildesley, arbenigwr ar glefydau heintus ac aelod o’r grwp modelu Spi-M, fod peryglon yn deillio o’r amrywiolion newydd o’r Covid-19.

Er bod hanner trigolion y Deyrnas Unedig wedi derbyn eu brechiad cyntaf bellach, mae pryderon am achosion o amrywiolyn De Affrica o’r feirws ledled tir mawr Ewrop.

“Dw i’n meddwl y bydd risg gwirioneddol os byddwn ni’n dechrau cael llawer o bobl yn mynd dramor ym mis Gorffennaf ac Awst oherwydd y potensial o ddod â mwy o’r amrywiolion hyn yn ôl i’r wlad,” meddai Dr Tildesley ar raglen Radio 4, Today.

“Beth sy’n wirioneddol beryglus i’n hymgyrch frechu fyddai cael yr amrywiolion yn lledaenu’n gyflymach gan nad yw ein brechlynnau’n gweithio mor effeithiol yn eu herbyn.”

Dywed ffynonellau o’r llywodraeth fod angen i Brydain fod yn wyliadwrus o’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop “oherwydd yn y gorffennol mae hynny wedi arwain at gynnydd yma ychydig wythnosau’n ddiweddarach”. Y farn yw ei bod yn aneglur beth fydd yn digwydd ar hyn o bryd, ond bod risg o fewnforio achosion ac amrywiolion o wledydd sydd â mwy o achosion na’r Deyrnas Unedig.