Heddiw (Dydd Sul, Mawrth 21) yw dyddiad Cyfrifiad 2021 pan fydd gofyn i bob aelwyd yng Nghymru a Lloegr gymryd rhan mewn arolwg, sy’n digwydd bob 10 mlynedd.
Bydd yr atebion i’r cwestiynau’n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau wrth gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel iechyd, addysg a thrafnidiaeth ac yng Nghymru, yr iaith Gymraeg.
Mae gofyn i bob oedolyn a phlentyn sy’n byw mewn cartref lenwi’r Cyfrifiad, unai ar bapur neu arlein.
Mae hi’n drosedd i beidio ac fe all pobl gael eu herlyn a’i dirwyo £1,000 os ydyn nhw’n gwrthod neu yn ei anwybyddu.
Mae’r Alban wedi gohirio’r Cyfrifiad yno oherwydd y pandemig.
Fe ddangosodd Cyfrifiad 2011 ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd traddodiadol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi annog siaradwyr Cymraeg i nodi eu bod yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg wrth ateb pob cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 sy’n ymwneud â’r iaith.
Mae’r Cyfrifiad yn holi a yw’r ymatebwyr yn gallu siarad Cymraeg, darllen Cymraeg, ysgrifennu Cymraeg a/neu ddeall Cymraeg llafar.
Cafwyd cwymp o tua 20,000 yng nghyfanswm y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011.
Roedd hyn i’w briodoli’n rhannol i ostyngiad yn nifer cyffredinol y plant yng Nghymru, a hefyd yn sgil colled naturiol siaradwyr Cymraeg mewn rhannau o Gymru lle’r oedd demograffeg hŷn yn ffactor.
Roedd hyn i’w weld yn amlwg mewn amryw o ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a gorllewin Morgannwg, er enghraifft.Mae Cymdeithas yr Iaith y galw ar siaradwyr Cymraeg — gan gynnwys y sawl sy’n meddwl nad yw eu Cymraeg yn ‘berffaith’ — i dicio’r opsiwn “Gallaf” wrth ymateb i’r holl gwestiynau hyn.
‘Categoriau diangen a mympwyol ar gyfer y Gymraeg’
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol: “Rydyn ni’n annog siaradwyr Cymraeg i nodi eu bod yn gallu cyfathrebu yn yr iaith wrth ymateb i’r holl gwestiynau sy’n cael eu holi ynghylch eu gallu iaith — ac mae hyn yn cynnwys pobl sy’n teimlo nad yw eu Cymraeg yn ‘berffaith’.
“Mae anghysondeb yn y ffaith mai dim ond un cwestiwn sy’n ymwneud â gallu rhywun i gyfathrebu yn Saesneg, tra bo cwestiynau ar wahân ynghylch gallu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg.
“Drwy greu’r categorïau diangen a mympwyol yma ar gyfer y Gymraeg, a dim ond y Gymraeg, fe bortreadir yr iaith fel iaith sy’n anarferol o anodd, ac mae hyn yn rhan o batrwm sy’n creu ansicrwydd ymhlith siaradwyr Cymraeg ynghylch eu gallu yn y Gymraeg.”
Mae un arbenigwr iaith wedi rhybuddio y gallai rhai o effeithiau’r pandemig a’r cyfnodau clo ar yr iaith Gymraeg gael eu gweld yng Nghyfrifiad eleni.
Yn ôl Meirion Prys Jones, cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith, mi allai’r pandemig achosi parhad yn y gostyngiad mewn canrannau.
Dywedodd wrth BBC Cymru: “Bydden i’n tybio mai’r un fydd y patrwm – o allfudo gan bobl ifanc gan ein bod ni’n byw mewn ardal hynod o dlawd mewn gwirionedd.”
“Felly wrth chwilio am waith a hyfforddiant bydd y bobl ifanc yn symud allan ac ar yr un pryd byddwn ni’n gweld mewnfudo yn digwydd.”
“A dwi’n siŵr y bydd Covid 19 yn effeithio yn sylweddol ar hynny.”
“Ni’n gallu gweld yn barod bod prisiau tai yn codi, bod pobl yn symud mewn, yn gweld y gallan nhw weithio o fan hyn yn rhwydd iawn.”
“A mae hynny’n mynd i newid dynameg ieithyddol yr ardaloedd yn y gorllewin yn sylweddol iawn.”