Daeth tua 100 o bobl ynghyd y tu allan i Orsaf Heddlu Bangor ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn Bil Heddlua newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roedden nhw yno i brotestio yn erbyn Mesur ‘Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd’ ac i godi ymwybyddiaeth am “greulondeb a thrais yr heddlu ar sail rhyw a hil.”

Roedd cynrychiolwyr o Black Lives Matter Gwynedd, Reclaim These Streets Gwynedd a Gwrthryfel Difodiant Bangor yn bresennol gan gadw at reolalui’r pandemig trwy cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau.

Dywedodd llefarydd wrth Golwg360: “Dilynwyd sesiwn meic agored gan funud o dawelwch i anrhydeddu’r bobl rydyn ni wedi’u colli oherwydd trais dynion, yna gosodwyd blodau a phlacardiau er cof amdanyn nhw.”

Meddai: “Mae protestiadau tebyg wedi digwydd ledled y DU ers llofruddiaeth Sarah Everard gan heddwas, a’r ymateb treisgar gan heddlu’r Met i wylnos a gynhaliwyd yng Nghomin Clapham ar fis Mawrth y 13eg.”

Dadleuon am bwerau’r heddlu i ddelio â phrotestiadau

Mae’r digwyddiadau hyn yn cyd-daro ag ail ddarlleniad Seneddol ‘Mesur Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd’ Llywodraeth y DU.

Pleidleisiodd Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon, yn erbyn y Bil ond er hynny fe basiodd y darlleniad ar Fawrth 16 gyda phleidlais o 359 i 263.

Mae protestiadau tebyg hefyd yn digwydd yn Wrecsam a Chaerdydd.

Mae’r Mesur 300 tudalen yn gwneud amrywiaeth eang o newidiadau i’r system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys awgrymu dedfrydau hirach o garchar am anharddu eiddo nag am dreisio, yn ôl beirniaid

Mae sawl agwedd ar y Mesur wedi achosi dadleuon, gan gynnwys ehangu pwerau’r heddlu i ddelio â phrotestiadau, mwy o bwerau stopio-a-chwilio, a deddfau ynghylch gwersylloedd a fydd yn erlid cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y DU.

Mae amryw o fudiadau ledled y DU wedi dod at ei gilydd i wrthdystio yn erbyn y Mesur gan gynnwys Black Lives Matter, Gwrthryfel Difodiant a’r grŵp hawliau menywod Sisters Uncut, ymhlith eraill.

Dywedodd un o fynychwyr y brotest “Rydyn ni am i’r llywodraeth amddiffyn bywydau Duon, bywydau menywod, bywydau pobl anabl a llês cenedlaethau’r dyfodol. Mae pob bod dynol yn haeddu diogelwch a rhyddid. Dylai fod rhyddid i brotestio pan fydd y llywodraeth yn pallu gwneud hyn. Diwedd protest yw diwedd ar ddemocratiaeth.”