Mae bron i bum mlynedd ers i Lywodraeth Cymru arddel y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nod hynod o uchelgeisiol o ystyried mai ychydig dros hanner hynny – 562,000 – oedd cyfanswm y rheini a nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011.

Mae’n anochel felly y bydd cryn sylw’n cael ei roi ar y cyfanswm cyfatebol pan gaiff canlyniadau Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi ymhen blwyddyn neu ddwy.

Fodd bynnag, llinyn mesur arwynebol iawn o wir sefyllfa’r Gymraeg fydd cyfanswm moel y niferoedd sy’n gallu ei siarad, a rhaid fydd edrych o dan yr wyneb cyn neidio i unrhyw gasgliadau.

P’run bynnag, mae sicrhau cynnydd sylweddol tuag at y nod o filiwn am ddibynnu’n bennaf ar y seiliau a gaiff eu gosod ar gyfer chwyldroi addysg Cymru dros y degawdau i ddod.

A oes rhagolygon o gynnydd?

Hyd oed o edrych ar y cyfanswm yn unig, mae sawl rheswm dros fod yn wyliadwrus rhag disgwyl enillion cyflym ar hyn o bryd.

I ddechrau, roedd cyfansymiau a chanrannau plant oedran ysgol sy’n cael eu nodi fel rhai sy’n gallu siarad Cymraeg eisoes yn afrealistig o uchel yng Nghyfrifiad 2011 ac un 2001 o’i flaen.

Roedd Cyfrifiad 2011 yn nodi bod ychydig dros 150,000 o blant rhwng 5 a 15 oed yn gallu siarad Cymraeg, a oedd yn cyfrif am tua 40% o’r grwp oedran hwnnw.

Yn ôl cyfrifiad blynyddol ysgolion am y flwyddyn honno fodd bynnag, ychydig o dan 60,000 o blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a oedd yn rhugl eu Cymraeg – a oedd yn cyfrif am 16.1% o’r holl blant. Er hynny, mae’r arolwg, sy’n seiliedig ar ganfyddiadau rhieni, yn nodi 124,000 o blant eraill fel rhai “yn gallu Cymraeg ond nid yn rhugl”.

Ni ddylid gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng arolwg ysgolion a’r Cyfrifiad, wrth gwrs, ond gallwn gymharu ffigurau arolwg blynyddol ysgolion 2011 gyda’r rhai diweddaraf. Mae’r rhain, sydd am y flwyddyn 2019/20 yn dangos cynnydd o ychydig dros 4,000 yn nifer y plant sy’n rhugl, a chynnydd o 12,000 yn y plant sy’n siarad Cymraeg, ond heb fod yn rhugl.

Mewn theori, felly, mae’n rhesymol disgwyl cynnydd bach yn nifer a chanrannau’r plant sy’n gallu siarad Cymraeg.

Yr hyn fydd yn llawer mwy dadlennol, fodd bynnag, fydd faint o bobl ifanc yn eu hugeiniau a fydd yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â’r grwpiau oedran 10 mlynedd yn iau yn 2011. Hynny yw, faint o’r plant a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011 sy’n dal i allu ei siarad 10 mlynedd yn ddiweddarach?

Os edrychwn ar yr hyn a ddigwyddodd rhwng 2001 ac 2011 dydi’r argoelion ddim yn arbennig o dda.

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 83,571 o blant 10-14 oed yn gallu siarad Cymraeg; 10 mlynedd yn ddiweddarach, llai na hanner y nifer hwn – 37,258 – o bobl ifanc 20-24 a oedd yn dweud eu bod yn medru’r iaith. Mae hyn golygu colli mwy na hanner y siaradwyr dros gyfnod o 10 mlynedd. Does dim tystiolaeth bendant pam fod hyn yn digwydd – ond yn sicr mae’n codi amheuaeth am ddilysrwydd y ffigurau ar gyfer plant.

Mae’n bwysig nodi hefyd mai ffigurau Cymru ar gyfartaledd yw’r rhain, gan fod gwahaniaeth anferthol rhwng y siroedd. Yng Ngwynedd, er enghraifft, nid oedd nifer y siaradwyr Cymraeg 20-24 oed yn 2011 ond tua 25% yn llai na nifer y plant 10-14 oed a allai siarad Cymraeg yn 2001. Y ffigur cyfatebol am bedair sir Gwent (Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Casnewydd), ar y llaw arall, oedd lleihad o 84% yn y niferoedd.

Maen prawf pwysig i asesu rhagolygon cynyddu cyfanswm y siaradwyr yn y dyfodol felly fydd cymharu cyfradd y colledion eleni o gymharu â’r hyn oedd 10 mlynedd yn ôl.

Os na fydd gwelliant sylweddol yn y gyfran o siaradwyr Cymraeg sy’n cael eu cadw rhwng yr adeg maent yn blant a phobl ifanc, dal i nofio yn erbyn y llif fydd ymdrechion i gynyddu’n sylweddol eu niferoedd.

Demograffeg hŷn

Cafwyd cwymp o tua 20,000 yng nghyfanswm y siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011. Roedd hyn i’w briodoli’n rhannol i ostyngiad yn nifer cyffredinol y plant yng Nghymru, a hefyd yn sgil colled naturiol siaradwyr Cymraeg mewn rhannau o Gymru lle’r oedd demograffeg hŷn yn ffactor. Roedd hyn i’w weld yn amlwg mewn amryw o ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a gorllewin Morgannwg, er enghraifft.

Er nad ydi’r anghydbwysedd oedran mor amlwg y tro hwn, mae ardaloedd o hyd lle mae cyfrannau uwch o’r to hŷn nag sydd o oedolion iau yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn yn dal yn wir am rannau o Sir Gaerfyrddin a Chwm Tawe, ond hefyd trefi fel Caergybi a Bangor.

Ni ellir diystyru rhywfaint yn rhagor o golledion naturiol yn niferoedd siaradwyr Cymraeg, er o bosibl ddim cymaint â’r cyfrifiad diwethaf.

Arolygon Blynyddol y Llywodraeth

Ar y llaw arall, mae canlyniadau cyson Arolygon Blynyddol y Boblogaeth yn awgrymu y gall fod y Cyfrifiad yn tan-gyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg.

Unwaith eto, ni ellir cymharu rhwng arolygon a’i gilydd. Ac mae’r Cyfrifiad, sy’n mynd i bob cartref, yn haeddu mwy o hygrededd nag arolygon sy’n dibynnu ar samplau.

Yr unig beth sy’n werth ei nodi ydi bod yr Arolwg Blynyddol yn dangos canrannau ychydig yn uwch heddiw nag oedd yn ei wneud 10 mlynedd yn ôl. Roedd yr arolwg a wnaed yr un adeg â’r Cyfrifiad yn 2011 yn awgrymu bod 25.8% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg (o gymharu â 19% yn y Cyfrifiad). Mae’r arolwg diweddaraf yn awgrymu bod y ganran wedi codi i 28.8% o’r boblogaeth. Yn y rhagymadrodd i’r ffigurau diweddaraf, fodd bynnag, mae’r Prif Ystadegydd yn rhybuddio na ddylid ystyried y ffigurau ynddo fel tystiolaeth o gynnydd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Gellir bod yn sicr na fu cynnydd gwirioneddol ar raddfa o’r fath yn y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg; esboniad mwy tebygol yw ei fod yn arwydd o gynnydd cyffredinol yn hyder pobl i ddweud eu bod yn gallu, neu o newid agwedd ar eu rhan.

Hyd yn oed os oes newid wedi bod mewn agweddau, nid yw’n dilyn o gwbl y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Cyfrifiad, a byddai’n annhebygol iawn o ddigwydd i’r un graddau.

Amrywiaeth o fewn Cymru

Beth bynnag fydd y cyfansymiau a’r canrannau ar gyfer Gymru gyfan, bydd y ffigurau’n ddiystyr heb inni ystyried y gwahaniaethau rhwng ardaloedd a’i gilydd.

Y ffaith amdani ydi nad ydi Cymru’n uned ieithyddol.  Yn hytrach, plethwaith cymhleth o ardaloedd hynod o amrywiol ydi hi, lle gall y Gymraeg fod yn dal ei thir yn dda mewn rhai mannau, neu ar gynnydd hyd yn oed mewn rhai, ond yn dirywio mewn eraill.

Maen prawf pwysicach o lawer na chyfanswm y siaradwyr fydd i ba raddau y mae’r Gymraeg yn dal ei thir yn ei chadarnleoedd. Mae pob tystiolaeth yn dangos pwysigrwydd allweddol ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol yn y gymdeithas.

Cymharol hawdd dangos cynnydd yn y siroedd lleiaf Cymraeg, pan mae rhywun yn cychwyn o’r nesaf peth i ddim. Byrhoedlog fodd bynnag fydd unrhyw gynnydd os yw plant a phobl ifanc yn colli eu gafael ar yr iaith cyn gynted ag y byddant yn gadael yr ysgol.

Mae’n amlwg fod pryder am effaith mewnfudo ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf yn siroedd y de-orllewin, a does dim amheuaeth fod pwysau hefyd ar rannau o brif gadarnle’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin a oedd wedi dal ei dir yn weddol dda yn y Cyfrifiad diwethaf.

Bydd gwybodaeth am ganrannau’r bobl a aned y tu allan i Gymru yn y ardaloedd hyn yn gwbl allweddol, ynghyd â ffigurau sy’n dangos y gallu i siarad Cymraeg yn ôl eu man geni. Mae canrannau’r bobl a aned yng Nghymru sy’n medru’r iaith yn rhoi darlun clir o’r graddau mae’r Gymraeg yn dal ei thir yn y boblogaeth gynhenid. Yng Ngwynedd, roedd 89% o’r boblogaeth a aned yng Nghymru’n gallu siarad Cymraeg yn 2011. Roedd y ffigurau cyfatebol am Fôn a Cheredigion, er yn is, yn dal yn uchel, ond yn Sir Gaerfyrddin, dim ond 54% o blith y bobl a aned yng Nghymru a oedd yn siarad Cymraeg. Er y dirywiad amlwg yn y boblogaeth frodorol, mae’n werth nodi fod ffigurau am ysgolion y sir yn dangos mwy o blant yn gallu siarad Cymraeg yno nag oedd 10 mlynedd yn ôl.

Effaith y cyfnod clo

Er gwaethaf popeth, tybed a fydd y ffaith fod y Cyfrifiad yn cael ei gynnal cyn diwedd y cyfnod clo yn lliniaru rhywfaint ar yr hyn fyddai ei ganlyniadau fel arall? Mi fydd llawer o berchnogion ail gartrefi yn debygol o fod yn absennol. Mae’n bosibl hefyd y bydd llawer o fyfyrwyr a allai fod fel arfer mewn prifysgolion mewn dinasoedd ledled Prydain gartref gyda’u teuluoedd yn lle hynny.

Bydd y cwymp yn niferoedd myfyrwyr mewn trefi prifysgolion hefyd yn debygol o gael effaith. O edrych ar niferoedd y myfyrwyr ym Mangor ac Aberystwyth yn 2011, a’r mwyafrifoedd llethol o’r rhain yn ddi-Gymraeg, roedd y rhain ynddynt eu hunain yn ddigon i olygu bod canran siaradwyr Cymraeg Gwynedd a Cheredigion tua 2-2.5 pwynt canran yn is nag y bydden nhw fel arall

Bydd hyn felly yn rhywbeth i’w gadw mewn cof, yn enwedig os bydd gostyngiadau pellach eleni. Yn yr un modd, gallwn fod yn sicr y bydd unrhyw gwymp mewn canrannau i’w briodoli i bobl sydd wedi symud yno i fyw yn barhaol yn hytrach na pherchnogion ail gartrefi.

Rhybudd amserol o’r Alban

Wrth drafod dyfodol cadarnleoedd y Gymraeg, mae’n werth ystyried casgliadau astudiaeth gynhwysfawr gan ysgolheigion blaenllaw ar yr iaith Aeleg yn yr Alban yn ddiweddar.

Mae ffrwyth eu hymchwil, The Gaelic Crisis in the Vernacular Community a gyhoeddwyd yr haf diwethaf[i], yn priodoli argyfwng presennol yr Aeleg i fethiant i ganolbwyntio digon ar ei chadarnleoedd pwysicaf yn yr ynysoedd gorllewinol.

Wrth rybuddio y bydd yr iaith yn peidio â bod yn iaith gymunedol yn fuan, mae’r awduron yn feirniadol o ymdrechion Llywodraeth yr Alban:

“In light of the critical challenge, it is clear that clinging to the current status quo in language planning and policy is not a credible option.”

Mae’n wir fod gwahaniaethau amlwg rhwng Cymru a’r Alban, ond mae’r rhybudd yr un mor berthnasol o ran peryglon peidio â chydnabod pwysigrwydd allweddol y prif gadarnleoedd.

Hyd yn oed os bydd y Cyfrifiad eleni’n dangos rhywfaint o gynnydd yn nifer y siaradwyr, cynnydd gwag fydd hwnnw os bydd yn digwydd law yn llaw â dirywiad pellach yn y cadarnleoedd cryfaf.

Byddai hynny’n dystiolaeth bellach nad ydi trin Cymru gyfan fel un uned ieithyddol a thaenu’r adnoddau’n rhy denau yn gweithio. Byddai hefyd yn sicr o roi pwysau pellach ar y llywodraeth i newid cyfeiriad ac addasu ei hymdrechion yn wyneb bygythiadau newydd yn sgil y chwyldro ôl-Covid ym myd gwaith.

Er mor deilwng ydi’r nod hirdymor o filiwn o siaradwyr, gall fod mwy o frys ar hyn o bryd i amddiffyn a chryfhau’n prif cadarnleoedd rhag y chwalfa ddiwylliannol a all eu hwynebu.

[i] The Gaelic Crisis in the Vernacular Community – A comprehensive sociolinguistic survey of Scottish Gaelic, Aberdeen University Press

Logo Golwg360

Iaith

Cyfrifiad 2011 yn amlygu prif gadarnle’r Gymraeg

Dadansoddiad newydd o’r ffigurau fesul cymuned a ward