Mae dau adolygiad annibynnol ar ei gilydd wedi dod i’r casgliad bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymddwyn yn briodol wrth gynllunio a rheoli cynlluniau gwerth £200m ar gyfer datblygu pentref llesiant yn Llanelli.

Cafodd un o’r adolygiadau ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, a ddaeth i’r casgliad bod yr awdurdod lleol wedi dilyn prosesau priodol ac wedi diogelu arian cyhoeddus mewn modd effeithiol.

Daeth yr ail adolygiad wedyn, sef adolygiad cyfreithiol annibynnol a gafodd ei orchymyn gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ei hun, i’r casgliad bod prosesau cyfreithiol dilys wedi eu dilyn, a bod y Cyngor wedi sicrhau bod y prosiect yn ddiogel yn gyfreithiol ac ariannol.

Bu rhai’n lleisio eu pryderon ynghylch yr adolygiad hwn, gan honni bod gan y cwmni cyfreithiol a fu’n gyfrifol amdano gysylltiadau agos â’r Prif Weithredwr, Mark James, a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Y Pentref Llesiant

Mae Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yn un o 11 prosiect sy’n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe – sy’n werth £1.3bn.

Mae disgwyl i’r pentref, a fydd yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd, greu bron i 2,000 o swyddi a rhoi hwb o £467m i’r economi leol.

Mae cynlluniau eisoes wedi eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac mae’r Bwrdd Gweithredol hefyd wedi clustnodi £16.4m ar gyfer rhan o’r datblygiad.

“Wrth fy modd”

“Rwyf wrth fy modd bod yr adolygiad annibynnol ac adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos yn glir bod y Cyngor wedi ymddwyn yn gywir bob amser wrth gynllunio Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli,” meddai Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole.

“Mae’r ddau adolygiad yn glir nad oes unrhyw gamddefnydd o arian cyhoeddus na risg mewn perthynas â’r arian hwnnw a bod y prosiect wedi cael ei reoli’n briodol yn unol â chyngor cyfreithiol allanol.

“Fel Bwrdd Gweithredol, roeddem yn awyddus i gael sicrwydd annibynnol yn dilyn misoedd o ddrwgdybiaeth ddiangen am y prosiect.

“Gan fod yr adolygiadau hyn bellach wedi dod i ben, edrychwn ymlaen at wireddu ein gweledigaeth o swyddi, llewyrch a llesiant ar gyfer pobol Llanelli a Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd.”