Mae cyn-lywydd clwb pêl-droed Barcelona, Sandro Rosell, wedi ymddangos yn y llys heddiw (Dydd Llun, Chwefror 25) wrth iddo wynebu cyhuddiadau o dwyll ariannol.
Roedd Sandro Rosell yn gyfarwyddwr i gwmni Nike ym Mrasil ac yn Barcelona o 2010 i 2014 – ac mae’n cael ei gyhuddo o guddio arian yn gysylltiedig â gwerthiant hawliau i gemau cyfeillgar tîm cenedlaethol Brasil.
Ar ben hynny, mae’r honiadau yn ei erbyn yn datgan ei fod wedi cuddio arian o gytundeb nawdd rhwng Nike a Brasil ynghyd â sefydlu rhan o sefydliad troseddol.
Mae Sandro Rosell wedi bod yn y ddalfa ers cael ei arestio bron i 21 mis yn ôl ac mae’n parhau i wadu unrhyw gamymddwyn.
Mae erlynwyr Sbaen eisiau iddo gael 11 mlynedd o garchar ar ben dirwy o bron i £52m.
Yn ôl erlynwyr, mae Sandro Rosell wedi helpu cuddio bron i £17m yn gysylltiedig ag arian comisiynu ar gyfer gemau Brasil pan oedd y llywydd Ricardo Teixeira yn rheoli.
Roedd Ricardo Teixeira yn arfer bod yn uwch aelod o bwyllgor FIFA a chafodd ei enwi gan awdurdodau’r Unol Daleithiau yn 2015 fel rhan o sgandal llygredd o fewn y byd pêl-droed.
Mae disgwyl i wrandawiad Sandro Rosell fynd ymlaen am 10 diwrnod, gyda gwahanol sesiynau trwy gydol mis Mawrth.