Mae Cynghrair Canser Cymru’n rhybuddio y gallai gwasanaethau canser Cymru ei chael hi’n anodd gwella ar ôl y pandemig.

Gallai hyn arwain at ofal a chanlyniadau gwaeth oni bai bod strategaeth canser newydd yn cael ei rhoi ar waith, yn ôl yr ugain elusen canser sy’n ffurfio’r Gynghrair.

Cyn bo hir, mae’n bosib mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb strategaeth canser, wedi i Lywodraeth Cymru ddewis cyhoeddi datganiad ansawdd byr heddiw (Mawrth 22) yn hytrach na strategaeth fanwl.

Daw hyn er gwaethaf rhybuddion gan Gynghrair Canser Cymru nad yw’r datganiad yn mynd yn ddigon pell.

Er bod y Gynghrair yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i adfer y Gwasanaeth Iechyd wedi’r pandemig, gallwch ddarllen mwy am hynny isod, dywedant mai cynllun i ymdrin â’r adferiad uniongyrchol yw hwn ac nad yw’n cynnwys y weledigaeth hirdymor sydd ei hangen ar wasanaethau canser yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i adfer y gwasanaeth iechyd a gofal ar ôl y pandemig

Cyfle i “drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol”

Pryder

Mae’r gynghrair yn pryderu y bydd pobol yng Nghymru yn cael gofal canser gwaeth, a llai personol, oni bai bod strategaeth gynhwysfawr yn cael ei rhoi ar waith.

Hyd at ddiwedd 2020, roedd gan Gymru Gynllun Cyflawni ar gyfer Canser a arweiniodd at gyflwyno datblygiadau arloesol.

Mae’r strategaeth yma wedi’i disodli am ddatganiad ansawdd sydd llawer byrrach, ac mae’r Gynghrair yn pryderu nad oes gan y datganiad fap clir ar gyfer sut y gallai gofal canser wella yng Nghymru.

Nid yw’r 20 elusen yn credu bod y datganiad yn ymateb digon manwl i’r argyfwng presennol ym maes gofal canser.

Gwasanaethau “dan fwy o bwysau nag erioed”

Cyn y pandemig, roedd Cymru’n perfformio’n waeth ar ganser o gymharu â gwledydd tebyg, ac mae Cymorth Canser Macmillan yn amcangyfrif bod 3,500 o bobol yn byw gyda chanser heb ddiagnosis.

“Mae gwasanaethau canser yng Nghymru o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen oherwydd achosion o ganslo ac oedi sydd wedi’u hachosi gan bandemig y coronafeirws,” meddai Richard Pugh, Cadeirydd Cynghrair Canser Cymru a Phennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan.

“Heddiw mae’r 20 elusen yng Nghynghrair Canser Cymru yn rhybuddio mai Cymru fydd yr unig wlad yn y DU cyn bo hir heb strategaeth ganser fanwl ar adeg pan allwn ni fforddio bod heb un leiaf.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddisodli ei Datganiad Ansawdd gyda strategaeth canser gynhwysfawr sy’n manylu ar sut y bydd ein GIG yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad cynyddol o bobl sydd angen diagnosis a gofal canser ac yn nodi sut y gall pobl â chanser yng Nghymru gael y gofal personol ac amserol sydd ei angen arnynt i gael y canlyniad gorau posibl.”

“Hynod siomedig”

“Mae’n hynod siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bod datganiad o ansawdd byr iawn yn ddigon i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu gwasanaethau canser a phobl y mae’r clefyd yn effeithio arnynt yng Nghymru,” ychwanega Andy Glyde, Is-gadeirydd Cynghrair Canser Cymru ac Uwch Reolwr Materion Allanol Cancer Research UK.

“Ar hyn o bryd, mae angen i ni weld gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol, lle rydyn ni’n ceisio adfer o effaith pandemig COVID-19, gwella gwasanaethau canser i bobl yng Nghymru, ac achub mwy o fywydau yn y pen draw. Nid yw’r ddogfen hon yn ddigon da.

“Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod gan bob gwlad strategaeth canser. Yng Nghymru, byddai cynllun fel hwn yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â chenhedloedd eraill sy’n perfformio’n well. Ynghyd ag elusennau canser eraill, rydym yn annog Llywodraeth Cymru yn gryf i newid ei dull o ddiwallu’r angen hwn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:

“Heddiw rydym wedi cyhoeddi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru COVID 19: Edrych Tua’r Dyfodol, sy’n cynnwys buddsoddiad cychwynnol o £100m.

“Mae hwn yn nodi ein dull uchelgeisiol ond realistig o ail-adeiladu ein system iechyd a gofal yng Nghymru ac mae’n cynnwys ffocws ar wasanaethau canser.

“Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r GIG yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu’r camau penodol sy’n ymwneud â gwasanaethau canser.

“Rydym yn parhau i annog unrhyw un sydd â symptomau neu bryderon am ganser i gysylltu â’u meddyg teulu, i fynychu apwyntiadau sgrinio a dylai unrhyw un sy’n cael triniaeth barhau i fynychu eu hapwyntiadau.”

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i adfer y gwasanaeth iechyd a gofal ar ôl y pandemig

Cyfle i “drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol”