Gallai canlyniadau etholiad y Senedd ym mis Mai fod yr agosaf erioed, yn ôl pol piniwn newydd.

Mae’r pol, hefyd, yn awgrymu ei bod yn bosib mai dyma fydd y canlyniad gwaethaf erioed i’r Blaid Lafur yn etholiadau Senedd Cymru.

Mae’r pol piniwn yn seiliedig ar ganlyniadau 1,174 o bleidleiswyr 16 oed a hŷn yng Nghymru, ac yn dangos bod y Blaid Lafur dal mewn safle i ennill yr etholiad gyda 32% o’r bleidlais, yn ôl ITV Cymru.

Dangosa’r pol, a gafodd ei greu gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, fod gan y Ceidwadwyr 30% o’r gefnogaeth, a Phlaid Cymru â 23%.

Mae’r pol yn awgrymu bod canlyniadau’r bleidlais etholaethol, gyda’r newidiadau ers y pol diwethaf, fel a ganlyn.

Llafur: 32% (-2)

Ceidwadwyr: 30% (+4)

Plaid Cymru: 23% (+1)

Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (+1)

Reform UK: 3% (-2)

Y Blaid Werdd: 2% (-4)

Eraill: 5% (+1)

Er bod yr Athro Roger Awan-Scully, o Brifysgol Caerdydd, yn dweud na ddylid gor-ddadansoddi un pol, mae’r canfyddiadau hyn yn debyg i’r rhai a ddangosodd pol piniwn arall gan YouGov ar gyfer WalesOnline yn ddiweddar.

“Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu newidiadau sy’n cael eu gweld mewn polau piniwn ledled Prydain, sy’n awgrymu bod cefnogaeth tuag at y Ceidwadwyr yn cryfhau, tra bod dirywiad cymedrol yn y gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur,” meddai’r Athro Roger Awan-Scully.

Ddim yn bosib “cymryd yn ganiataol” fod Llafur ar y blaen

Awgryma’r pol ei bod hi’n ras rhwng tair plaid yn dal i fod, ond “nad ydi hi’n bosib cymryd yn ganiataol fod Llafur ar y blaen.”

Yn seiliedig ar newidiadau mewn cefnogaeth tuag at bleidiau ers Mai 2016, mae’r pol yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr gipio pum sedd oddi wrth y Blaid Lafur – Bro Morgannwg, Gŵyr, Dyffryn Clwyd, Wrecsam, a Gogledd Caerdydd – yn ôl yr Athro Awan-Scully.

Yn ogystal, mae’r pol yn awgrymu y gallai Blaid Cymru gipio seddi Llanelli, Blaenau Gwent, a Gorllewin Caerdydd oddi wrth y Blaid Lafur.

Y Rhestr Ranbarthol

Ar gyfer y rhestr ranbarthol, mae’r pol yn dangos cwymp llai yn y gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur.

Y Ceidwadwyr sy’n y safle cryfaf i herio’r Blaid Lafur yn ôl y pol, tra bod Plaid Cymru yn parhau yn y drydydd safle.

Llafur: 31% (+1)

Ceidwadwyr: 28% (+3)

Plaid Cymru: 22% (-1)

Abolish the Welsh Assembly: 7% (dim newid)

Democratiaid Rhyddfrydol: 4% (dim newid)

Y Blaid Werdd: 3% (-2)

Eraill: 4% (-2)

Mae’r pol yn parhau i ddangos bod digon o gefnogaeth tuag at blaid Abolish the Assembly i olygu y gallen nhw ennill seddi ar y rhestr ranbarthol.

Dyma’r canlyniadau posib ar gyfer holl seddi’r Senedd, yn ôl Yr Athro Awan-Scully:

Lafur: 22 sedd (19 etholaeth, 3 rhanbarthol)

Ceidwadwyr: 19 sedd (11 etholaeth, 8 rhanbarthol)

Plaid Cymru: 14 sedd (9 etholaeth, 5 rhanbarthol)

Abolish the Assembly: 4 sedd (4 rhanbarthol)

Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (1 rhanbarthol)

Etholiadau San Steffan

Er na fydd yr etholiad nesaf yn San Steffan yn digwydd am sawl blwyddyn, mae’n debyg, dangosodd pol piniwn ym mis Ionawr fod y gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur yn dioddef yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae’r gefnogaeth tuag at y Blaid Lafur yng Nghymru wedi disgyn o 7%, yn ôl y pôl piniwn.

Awgryma’r pol bod gan y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr 35% o’r gefnogaeth yr un yng Nghymru, tra bod gan Blaid Cymru 17% o’r gefnogaeth.

Yn seiliedig ar y pol piniwn, mae’r Athro Awan-Scully’n rhagweld y byddai’r Blaid Lafur yn ennill 19 o seddi Cymru yn etholiadau San Steffan, y Ceidwadwyr yn ennill 16, a Phlaid Cymru’n ennill 5.

Petai hyn yn digwydd, mae’n rhagweld y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill Gorllewin Casnewydd, Gŵyr, ac Alun a Glannau Dyfrdwy, tair sedd oedden nhw’n agos i’w hennill yn 2019.

Er hynny, mae’n rhagweld y bydden nhw’n colli Ynys Môn i Blaid Cymru.

Cafodd y Welsh Political Barometer poll ei gynnal ar-lein ar gyfer ITV Cymru, a Phrifysgol Caerdydd gan YouGov rhwng Mawrth 16 ac 19 2021, gan holi 1,174 o bleidleiswyr dros 16 oed. Mae’r canlyniadau ar gyfer pleidlais San Steffan yn adlewyrchu ymatebion pobol dros 18 oed.