Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn clustnodi hyd at £30 miliwn i gefnogi’r sector diwylliant yng Nghymru drwy’r pandemig.

Caiff y Gronfa Adferiad Ddiwylliannol ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau lleol.

Bydd yr arian newydd yn agor ar gyfer ceisiadau o 6 Ebrill, ac yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau lleol eto.

Llynedd, darparodd y Gronfa Adferiad Ddiwylliannol, a gafodd ei lansio’r haf diwethaf, £63.3 miliwn i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol, a gweithwyr llawrydd.

Roedd y gronfa yn cynnwys tair prif elfen. Gweinyddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyllid o fwy na £18 miliwn er mwyn cefnogi 170 o sefydliadau, a 1,000 o swyddi.

Y Gronfa Gweithwyr Llawrydd oedd y cyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r gronfa wedi darparu cyfanswm o £18 miliwn o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd.

Darparodd y rhan o’r gronfa a gafodd ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru £27 miliwn i gefnogi’r sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth gan roi cyllid i dros 500 o sefydliadau.

“Cymeradwyo’r gwydnwch a’r creadigrwydd”

“Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae’r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo’r gwydnwch a’r creadigrwydd a ddangosir,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae’n rhaid i ni aros yn amyneddgar. Yr ydym wedi bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na pheintio’r darlun mwyaf optimistaidd a allwn.

“Gyda hynny mewn golwg rydym wedi gwrando a gweithio gyda’r sectorau i roi’r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith ac rwy’n sicr y bydd yn darparu rhyddhad i’w groesawu, yn ogystal â blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol.”