Mae ymchwiliad Pwyllgor ar Ymdrin â Chwynion Aflonyddu Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu fod Nicola Sturgeon wedi camarwain Llywodraeth yr Alban ynglyn â honiadau o aflonyddu yn erbyn Alex Salmond.

Mae’r canfyddiadau yma ar wahân i rai James Hamilton, a adroddodd ddoe (ddydd Llun, Mawrth 22) na wnaeth Y Prif Weinidog Ms Sturgeon dorri’r cod gweinidogol.

Canfu’r Pwyllgor ar Ymdrin â Chwynion Aflonyddu Llywodraeth yr Alban “wrthddywediad sylfaenol” yn ei thystiolaeth ynghylch a gytunodd i ymyrryd mewn ymchwiliad gan Lywodraeth yr Alban i gwynion gan ddwy fenyw yn erbyn y cyn-brif weinidog.

‘Adroddiad anghywir’

Dywedodd, mewn cyfarfod yn ei chartref yn Glasgow ar Ebrill 2, 2018, fod Ms Sturgeon “wedi gadael Mr Salmond gyda’r argraff y byddai hi, pe bai angen, yn ymyrryd”.

Aeth yr adroddiad yn ei blaen: “Felly, mae ei thystiolaeth ysgrifenedig yn adroddiad anghywir o’r hyn a ddigwyddodd, ac mae hi wedi camarwain y pwyllgor ar y mater hwn.”

Canfu’r pwyllgor fod hyn yn achos posibl o dorri’r cod gweinidogol ond ychwanegodd mai adroddiad Mr Hamilton oedd y “lle mwyaf priodol” i fynd i’r afael â’r cwestiwn a oedd Ms Sturgeon wedi torri’r cod gweinidogol.

Nid oedd pedwar aelod pwyllgor yr SNP yn cytuno â’r canfyddiad ei bod wedi camarwain y pwyllgor

Sefydlwyd yr ymchwiliad trawsbleidiol ar ôl i adolygiad barnwrol llwyddiannus gan Mr Salmond arwain at ddyfarnu ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i’r honiadau yn ei erbyn yn anghyfreithlon a’i “gadw gan ragfarn ymddangosiadol” yn 2019.

Dyfarnwyd uchafswm o £512,250 iddo ar ôl i’r Llywodraeth ildio’r achos wythnos cyn y byddai’n cael ei glywed yn y llys oherwydd cyswllt ymlaen llaw rhwng y swyddog ymchwilio Judith Mackinnon a dwy o’r menywod a wnaeth gwynion.

Mae disgwyl y bydd yna bleidlais o ddiffyg hyder yn Ms Sturgeon yn cael ei chynnal yn nes ymlaen heddiw.