Mae ymchwiliad annibynnol wedi dod i’r casgliad na wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, dorri’r cod gweinidogol.

Canfu ymchwiliad gan James Hamilton QC na wnaeth Ms Sturgeon dorri’r cod mewn perthynas â honiadau iddi fethu â chofnodi cyfarfodydd gyda Mr Salmond ac eraill yn 2018.

Archwiliodd hefyd yr honiad bod Ms Sturgeon wedi camarwain y Senedd mewn perthynas â’r cyfarfodydd, gan ganfod unwaith eto nad oedd y cod wedi’i dorri.

Croesawu casgliad “cynhwysfawr a diamwys”

Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod yn croesawu’r casgliad “cynhwysfawr a diamwys sy’n seiliedig ar dystiolaeth” nad oedd wedi torri’r cod, gan ychwanegu: “Ceisiais ar bob cam yn y mater hwn weithredu yn onest ac er budd y cyhoedd.”

James Hamilton, cyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus yng Ngweriniaeth Iwerddon, yw cynghorydd annibynnol Llywodraeth yr Alban ar y cod gweinidogol – sef cyfres o reolau ynghylch sut y dylai gweinidogion ymddwyn.

Dywedodd yn ei adroddiad: “Rwyf o’r farn na wnaeth y Prif Weinidog dorri darpariaethau’r cod gweinidogol mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion hyn.”

Oedi

Cyfeiriodd Ms Sturgeon ei hun at y cynghorydd annibynnol ar y cod gweinidogol yn dilyn her gyfreithiol lwyddiannus Mr Salmond ynghylch ymchwiliad anghyfreithlon Llywodraeth yr Alban, a arweiniodd at Mr Salmond yn ennill mwy na £500,000 yn y llys.

Cafodd ymchwiliad Mr Hamilton ei oedi yn gynnar yn 2019 er mwyn osgoi dylanwadu ar achosion troseddol a ddygwyd yn erbyn Mr Salmond.

Fe’i cafwyd yn ddieuog o 13 cyhuddiad, gan gynnwys ymosodiad rhywiol, ymosodiad anweddus ac ymgais i dreisio, ym mis Mawrth 2020 yn dilyn achos yn yr Uchel Lys.

Gohiriwyd ymchwiliad Mr Hamilton eto gan y pandemig, cyn ailddechrau ym mis Awst 2020.

Mae’r cod yn dweud mai’r Prif Weinidog sydd i “farnu’n derfynol ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weinidog” a’r canlyniadau priodol yn sgil torri’r cod.

“Parchu a derbyn” canlyniad yr ymchwiliad

Mewn datganiad, dywedodd Ms Sturgeon: “Mae Mr Hamilton wedi ystyried yr holl honiadau yn fy erbyn, ac rwy’n hapus bod canfyddiadau ei adroddiad yn fy nghlirio o unrhyw achos o dorri’r cod gweinidogol.

“Ceisiais, ar bob cam yn y mater hwn, weithredu’n onest ac er budd y cyhoedd. Fel yr wyf wedi’i wneud yn glir o’r blaen, nid oeddwn o’r farn fy mod wedi torri’r cod, ond mae’r canfyddiadau hyn yn ddyfarniad swyddogol, diffiniol ac annibynnol am hynny.

“Cyn ei gyhoeddi, pwysleisiodd gwleidyddion y gwrthbleidiau bwysigrwydd parchu a derbyn canlyniad ymchwiliad annibynnol Mr Hamilton, ac ymrwymais yn llwyr i wneud hynny. Gan ei fod bellach wedi adrodd, mae’n ddyletswydd arnynt i wneud yr un peth.”

“Prif Weinidog wedi cael pàs”

Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn Nicola Sturgeon, sydd yn yr arfaeth, bellach yn debygol o fethu ar ôl i Wyrddion yr Alban ddweud na fyddan nhw’n ei gefnogi.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwyrddion bod y ffaith fod y Torïaid wedi cyflwyno’r bleidlais cyn i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn dangos “nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn dod o hyd i’r gwirionedd”.

Ond mynnodd Arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Douglas Ross, sy’n aelod o Senedd San Steffan, na allai gytuno ag asesiad Mr Hamilton a’i ymchwiliad.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cael pàs oherwydd barnwyd nad oedd ei ‘methiant i gofio’ ‘yn fwriadol’,” meddai.

“Rwy’n parchu Mr Hamilton a’i farn ond ni allwn gytuno â’r asesiad hwnnw.

“Ni wnaeth Nicola Sturgeon droi’n anghofus yn sydyn.”

Ychwanegodd: “Fel y dywed James Hamilton ei hun, mater i Senedd yr Alban yw penderfynu a yw’r Prif Weinidog wedi camarwain.”