Bydd y rhaglen brofi gymunedol yn cael ei hymestyn hyd at ddiwedd mis Medi er mwyn helpu i reoli achosion coronafeirws, a thargedu ardaloedd sy’n gweld cynnydd sydyn mewn achosion.

Ers dechrau mis Mawrth, mae profion wedi’u cynnal ar gyfer unigolyn asymptomatig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf, ac mae cynlluniau ar y gweill i’w cynnal ar Ynys Môn yn sgil cynnydd mewn achosion yng Nghaergybi.

Daeth gwerthusiad o’r cynllun peilot i brofi achosion asymptomatig ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf y llynedd i’r canlyniad bod y profion yn gost-effeithiol iawn, ac wedi cyfrannu at leihad mewn cyfraddau achosion coronafeirws.

Yn ôl amcangyfrif, cafodd 353 o achosion, 24 derbyniad i’r ysbyty, 5 derbyniad i’r Uned Gofal Dwys, a 14 marwolaeth eu hosgoi.

Yn ogystal, mae datblygiadau ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i wella profion mewn cymunedau drwy roi mynediad at becynnau profi i bobol sydd ddim yn gallu gweithio o adref.

Bydd y pecynnau ar gael i’w casglu yn lleol a’u danfon i gartrefi yn fuan, a bydd hyn yn sicrhau bod profion asymptomatig rheolaidd yn gyfleus a hygyrch ar gyfer unrhyw un sydd methu cael mynediad at brawf trwy eu gwaith, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Profion yn “parhau i fod yn ganolog” i’r ymateb i Covid-19

“Gwyddom nad yw hyd at un o bob tri o bobl sydd â coronafeirws yn sylwi ar unrhyw symptomau o gwbl ac felly gallant ei ledaenu yn ddiarwybod iddynt,” esbonia Vaughan Gething.

“Er bod ein rhaglen frechu yn gwneud cynnydd da, mae profion yn parhau i fod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig i’n helpu i adnabod unigolion heintus a rheoli brigiadau o achosion yn fwy effeithiol.

“Drwy ddarparu safleoedd profi cymunedol a chynllunio i gyflwyno pecynnau profi i bobl sy’n gorfod gadael eu cartrefi i fynd i’r gwaith, rydym yn ei gwneud yn fwy hygyrch a chyfleus i gael prawf.

“Rwy’n croesawu canlyniadau cynllun profi peilot Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n dangos bod ein rhaglen brofi gymunedol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau trosglwyddiad yr haint, yn cefnogi ymdrechion i olrhain cysylltiadau, yn diogelu unigolion agored i niwed ac yn helpu i arafu neu atal lledaeniad coronafeirws.”