Mae prosiect dan arweiniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dod â phrifysgolion ar draws Cymru ynghyd i greu deunyddiau dysgu digidol newydd sbon i gefnogi myfyrwyr ledled Cymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Adfer a Buddsoddi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Yn ôl un academydd o Brifysgol Bangor, mae gan y prosiect y potensial i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru.

Cydweithiodd y Coleg Cymraeg â Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru i gyflwyno cais cydweithredol i CCAUC am £2,730,000, i ddiogelu’r ddarpariaeth ddigidol gyfredol.

Fel rhan o’r cais roedd y Coleg wedi adnabod yr angen am adnoddau digidol Cymraeg i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ym mis Rhagfyr cytunwyd y byddai £420,000 yn cael ei ddarparu i ddatblygu’r prosiect adnoddau dan arweiniad y Coleg.

‘Cynyddu’r ddarpariaeth’

Dywedodd Dr Cynog Prys sy’n ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhan o’r tîm cenedlaethol sy’n arwain ar y prosiect: “Mae gan y pecynnau newydd botensial i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru, a hefyd i gynyddu’r stôr o ddeunyddiau addysgu Cymraeg sydd ar gael i ddarlithwyr eu defnyddio.

“Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu pa mor bwysig yw cael adnoddau digidol wrth ddysgu ac addysgu, yn enwedig wrth i ni gyd symud i ddysgu ac addysgu o gartref.

“Bydd y cynllun cyffrous hwn yn creu adnoddau arbenigol a chwbl unigryw ar gyfer dysgu nifer o bynciau poblogaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, o Wyddorau Chwaraeon i Wyddorau Cymdeithas.

“Ond bydd gan yr adnoddau ddefnydd gwirioneddol y tu hwnt i ddiwedd y pandemig Covid-19, wrth i ni ddatblygu modelau dysgu ac addysgu newydd i’r gymuned academaidd yng Nghymru.”

Y pum pwnc blaenoriaeth

Ar ôl ymgynghori â’r prifysgolion, cafodd pum pwnc blaenoriaeth eu dewis.

Mae’r rhain yn cynnwys Astudiaethau Busnes, Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithas, y Gyfraith, a Gwyddorau Chwaraeon.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Yn dilyn cyhoeddi’r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 aeth y Coleg ati i ymgynghori gyda phrifysgolion i ddeall pa gefnogaeth oedd ei hangen arnynt er mwyn parhau i gynnig darpariaeth Cymraeg ar-lein o safon, ac mae’r prosiect hwn yn ben llanw i’r gwaith hwnnw.

“Rydan ni’n ddiolchgar iawn i’r Athro Claire Taylor o Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam, am arwain ar y cais cyllido ar ran Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu Prifysgolion Cymru ac wrth gwrs i’r CCAUC am gytuno bod y cais yn un oedd yn deilwng o gefnogaeth ariannol.

“O ganlyniad i’r prosiect bydd myfyrwyr Cymraeg yn gallu manteisio ar arbenigeddau staff academaidd o brifysgolion ledled Cymru; yn gallu manteisio ar sesiynau anghydamserol Cymraeg sydd wedi’u creu gan staff o brifysgolion eraill, yn ogystal â manteisio ar drafodaeth a mewnbwn rhagor o fyfyrwyr.

“Bydd hyn o gymorth yn arbennig i fyfyrwyr mewn adrannau lle y mae’r niferoedd sy’n dilyn modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol fach.

“Rydan ni hefyd yn obeithiol y bydd y prosiect yn arwain at fyfyrwyr yn cael cyfle na fyddai’n bodoli fel arall i astudio rhan o fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o bosib, i astudio modiwl cyfan a ellid ei greu a’i gyflwyno am y tro cyntaf drwy’r prosiect hwn.”