Mae NFU Cymru wedi croesawu newyddion bod y cyrff ardollau cig coch yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi cytuno ar fformiwla ailddosbarthu a ddylai fod yn decach i bawb.
Mae’r Undeb wedi lobïo ers blynyddoedd, meddai, i ail-ddosbarthu incwm ardollau a rhoi ystyriaeth decach i lefel y cynhyrchu cig coch yng Nghymru.
Dywedon nhw fod y system flaenorol, a welodd arian ardoll yn cael ei gasglu a’i ddefnyddio yn y wlad y lladdwyd yr anifail ynddi, wedi gweld Cymru ar ei cholled.
Yn ôl NFU Cymru, roedd y system hon yn ddiffygiol gan ei bod wedi’i seilio ar leoliad lladd-dai – penderfyniad sydd y tu hwnt i reolaeth cynhyrchwyr cynradd medd yr Undeb.
“Mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb yn y system bresennol”
Dywedodd Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru: “Rydym yn falch, ar ôl proses hirfaith, fod cyrff ardollau cig coch y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio’r pwerau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig, wedi dod at ei gilydd ac wedi cytuno ar fecanwaith sy’n ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb yn y system bresennol, heb ychwanegu unrhyw gost ychwanegol at gynhyrchwyr neu broseswyr.
“Mae’n gwneud synnwyr bod y mecanwaith yn cynnal sail y system casglu ardollau presennol.”
Mae NFU Cymru hefyd wedi croesawu’r newyddion y bydd y cyrff ardollau, lle y bo’n berthnasol, yn cydweithio ac yn ariannu gweithgareddau sydd o fudd i bawb sy’n talu’r ardoll cig coch.
Ychwanegodd Wyn Evans: “Er bod yn rhaid canolbwyntio yng Nghymru ar farchnata a hyrwyddo ein brandiau PGI ein hunain, mae yna feysydd lle mae’n ddoeth cydweithio a rhannu adnoddau rhwng y tair gwlad yn y gadwyn cig coch.
“Mae hyn wedi bod yn arweiniad clir gan NFU Cymru, wedi’i danlinellu gan argyfwng presennol Covid-19 a’n hymadawiad diweddar o’r Undeb Ewropeaidd, lle mae ymgyrchoedd ar y cyd wedi tynnu sylw at fanteision gwirioneddol a phendant i sector cig coch y Deyrnas Unedig.
“Mae meysydd gwaith eraill a fydd yn elwa, gan gynnwys hyrwyddo manteision iechyd cadarnhaol cig coch fel rhan o ddeiet cytbwys a materion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd.”