Bu pobl ledled Cymru yn cofio’r rheiny a gollwyd yn y pandemig heddiw – flwyddyn union ers i’r Deyrnas Gyfunol fynd i gyfnod clo am y tro cyntaf.
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal am 12:00 a gwasanaeth coffa yng Nghaerdydd fel rhan o’r diwrnod cenedlaethol o fyfyrdod.
Mae dros 7,000 o bobl yng Nghymru wedi marw oherwydd Covid-19 yng Nghymru a 125,000 o bobl yn y DU yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i oleuo eu stepen drws ac arddangos calonnau melyn wrth gofio’r rhai a gollwyd heno.
Heno, bydd dros 60 o adeiladau ledled Cymru hefyd yn cael eu goleuo yn felyn, gan gynnwys y Senedd a chestyll Caerffili, Conwy a Chaernarfon a hefyd Ty Fulton, Prifysgol Abertawe a welir yma.
Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru – sy’n cefnogi pobl sydd wedi colli anwyliaid – sy’n gofyn am y weithred er mwyn cofio’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau i’r feirws.
Dywedodd Andrea Williams un o sefydlwyr y grŵp wrth y BBC: “Rydyn ni’n cynnig cwnsela, ond hefyd yn gallu cefnogi pobl trwy ddweud ‘ry’n ni’n gwybod sut ydych chi’n teimlo.
Goleuo Cymru i gofio am y rhai a gollwyd
“Os ydy rhywun yn dweud ‘dydw i methu cysgu’ mae ’na wastad rhywun arall sy’n ymateb yn dweud eu bod nhw’n mynd trwy’r un peth.
“Mae eraill yn dweud eu bod yn teimlo’n euog – ‘dylen i ddim fod wedi eu gyrru nhw i’r ysbyty’ – a dyma’r math o gwestiynau sydd ym meddyliau rhai o’r aelodau.”
Fe wnaeth Mrs Williams, o Fro Morgannwg, helpu i sefydlu’r grŵp ar ôl colli ei gŵr, Mark, ar ddechrau’r pandemig ag yntau’n 58 oed.
“Mae’r grŵp wedi fy helpu i – gwybod fod pobl eraill yn teimlo yr un ffordd,” meddai.
“Rydyn ni oll yn cymryd pethau ar ein cyflymder ein hunain, ond fe allwn ni oll oleuo Cymru i gofio amdanynt.”
Rhondda Cynon Taf ydy’r ardal sydd wedi’i tharo waethaf yng Nghymru, gyda 339.8 o farwolaethau ar gyfer pob 100,000 o bobl.
Ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd, 196.4 ydy’r gyfradd.
Ardal Tonyrefail sydd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau trwy Gymru gyfan.
Ar hyn o bryd y gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod ydy 42 – sef y lefel isaf ers canol Medi 2020.
Merthyr Tudful (121) ac Ynys Môn (107.1) sydd â’r cyfraddau uchaf, a Cheredigion (11), Sir Fynwy (15.9) a Phen-y-bont ar Ogwr (17.7) sydd â’r cyfraddau isaf.
Mae dros 1,250,000 o bobl wedi derbyn eu brechiad cyntaf – 50% o oedolion Cymru – a dros 340,000 wedi cael y dos llawn.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd, 821 o gleifion Covid-19 sydd mewn ysbytai ledled Cymru ac mae’r nifer sydd angen triniaeth ysbyty oherwydd y feirws ar ei lefel isaf ers canol Hydref.