Bu Mark Drakeford yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws brynhawn heddiw (Mawrth 23).
Roedd y digwyddiad, a oedd yn cael ei gyflwyno gan Huw Edwards, yn gyfle i ddod â’r wlad ynghyd i dalu teyrngedau i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau, ac i gydymdeimlo â phobol sy’n galaru am eu hanwyliad.
Flwyddyn ers i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym yng Nghymru, roedd y digwyddiad yn gyfle i ystyried sut mae’r pandemig wedi cael effaith ar bob cymuned yng Nghymru, ac i ddathlu sut mae cymunedau wedi dod ynghyd er mwyn bod yn gefn i’w gilydd.
Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle i ddiolch i weithwyr iechyd a gofalwyr, ac bu Côr Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys yn recordio perfformiad arbennig ar gyfer yr achlysur
Darllenodd y Prifardd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, gerdd a gafodd ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer y Coffa:
Dod at ein coed
Beth yw ein dyddiau ond cawod ddail?
A llynedd yn hydref affwysol o hir…
Heddiw mae heulwen lem
yr heb-fod-eto gwanwyn
yn gwynnu sgerbydau’r bedw
yn erbyn awyr boenus o las.
A down yma,
gan sathru clicied y manfrigau…
ac yna, ymlonyddu,
gan anadlu hefo’r coed…
Bydd deilen yn disgyn;
yn troelli a fflantio;
a ninnau’n ymuno, gan bwyll, yn ei chylchoedd,
nes nofio mewn atgofion.
Gallwn ail-gyfannu yma,
lle mae’r ffin yn denau
rhwng gwreiddiau’r pridd, a brigau’r gwynt,
rhwng corff ac enaid…
A bydd y derw cyn hir
yn hwylio’r tymhorau,
yn taenu’u gogoniant
drwy’r eglwysi gwyrdd,
yn gogrwn haul
i’r cysgodion islaw.
A’n galar yn gwisgo lliwiau newydd,
am fod rhaid…
Cyfle i ddod ynghyd
“Dros y 12 mis diwethaf, mae’r pandemig wedi troi ein bywydau ni i gyd ben i waered,” meddai Mark Drakeford, a fu’n cymryd rhan mewn munud o dawelwch am hanner dydd heddiw i gofio’r rhai sydd wedi marw dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae gormod o deuluoedd wedi colli anwyliaid a ffrindiau agos, ac mae cymaint o bobol heb gael cyfle i ddweud ffarwel oherwydd yr holl newidiadau y mae’r coronafeirws wedi’u hachosi yn ein bywydau.
“Mae’n bwysig dros ben ein bod yn cael cyfle i ddod ynghyd i edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf, a chefnogi ein gilydd drwy’r cyfnod anodd hwn.”
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal ar draws Cymru am hanner dydd heddiw er cof am bawb sydd wedi colli’u bywydau yn ystod y pandemig.
Bydd dros 60 o adeiladau ledled Cymru yn cael eu goleuo yn felyn heno, gan gynnwys y Senedd, Castell Caernarfon, Stadiwm y Principality, Pont Britannia, a Thŷ Fulton Prifysgol Abertawe (uchod).
“Cywir” myfyrio heddiw
Mae Arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi gwahodd pobol i ddod ynghyd er mwyn myfyrio heddiw.
“Flwyddyn yn ôl, byddai’r un ohonom ni wedi meddwl y byddem ni dal mewn pandemig erbyn hyn, ac er bod posib bod yn obeithiol, mae’n gywir i ni adlewyrchu heddiw ar yr hyn sydd wedi digwydd i ni a’r wlad, ac ar y colledion,” meddai Andrew RT Davies.
“I rai, pobol sydd wedi cael eu cyffwrdd gan dristwch yn ystod y pandemig, bydd heddiw’n ddiwrnod anodd iawn, ond nid ydych ar eich pennau eich hunain, mae ein meddyliau i gyd gyda chi.”
Mae Plaid Cymru wedi trydar, gan ddweud eu bod nhw’n “cofio am y rheiny sydd wedi marw yn ystod y pandemig” heddiw ac yn cefnogi “pob un yn eu profedigaeth.”