Mae cynnnig o ddiffyg hyder yn Nicola Sturgeon yn Senedd yr Alban wedi methu.Roedd Ceidwadwyr yr Alban wedi mynnu cael pleidlais yn Holyrood ar gynnig o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog yr Alban, a gyflwynwyd ynglyn â’r modd y mae ei Llywodraeth wedi ymdrin â honiadau o aflonyddu yn erbyn Alex Salmond.Fe aeth y bleidlais yn ei blaen er gwaethaf bod dau adroddiad swmpus i’r honiadau gael eu cyhoeddi – gydag ymchwiliad annibynnol yn clirio Nicola Sturgeon o dorri’r cod gweinidogol.

Fodd bynnag, sefydlodd pwyllgor Senedd yr Alban ymchwiliad i’r hyn a aeth o’i le wrth i’r Llywodraeth ymdrin â’r cwynion a honiadau bod Ms Sturgeon wedi’u camarwain.

Cyflwynodd Ceidwadwyr yr Alban eu cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog cyn i’r naill adroddiad neu’r llall gael ei gyhoeddi.

Pan bleidleisiwyd arno yn Holyrood y prynhawn yma, fe’i trechwyd o 31 i 65 gyda 27 yn ymatal.

Yn ystod y ddadl dywedodd Ms Sturgeon y byddai wedi ymddiswyddo pe bai wedi torri’r cod gweinidogol.

Darllenwch fwy am y datblygiadau diweddaraf isod.

Alex Salmond a Nicola Sturgeon gyda dogfennau lansio'r 'Sgwrs Genedlaethol'

Sturgeon ‘wedi camarwain’ Llywodraeth yr Alban yn ôl pwyllgor rhyngbleidiol

Adroddiad Mr Hamiltond “y lle mwyaf priodol” i fynd i’r afael â’r cwestiwn os oedd Ms Sturgeon wedi torri’r cod gweinidogol
https://golwg.360.cymru/newyddion/prydain/2042536-ymchwiliad-annibynnol-wedi-casgliad-wnaeth-nicola