Mae cyn weithwyr adeiladu a ddedfrydwyd a’u carcharu am bicedu’n anghyfreithlon yn y 70au wedi ennill brwydr i adfer eu henw da.

Roedd yr 14 gweithiwr – nifer ohonyn nhw yn Gymry ac yn gweithio mewn safleoedd adeiladu yn y Gogledd – yn rhan o grŵp a adnabyddir fel 24 Amwythig.

Fe gafon nhw eu cyhuddo yn dilyn streic genedlaethol y gweithwyr adeiladu yn 1972 yn galw am well cyflogau a diogelwch.

Heddiw yn y Llys Apêl fe ddileuwyd yr euogfarnau ar ôl i gyfreithwyr ddadlau bod yr heddlu wedi cael gwared ar dystiolaeth cyn yr achos gwreiddiol.

Cafodd y gweithwyr eu herlyn a’u dedfrydu am droseddau’n cynnwys ymgynnull anghyfreithlon, cynllwynio i fradychu, ac achosi ffrwgwd wrth bicedu yn Yr Amwythig a Telford.

Wedi gwrandawiad ym mis Chwefror, daeth barnwyr y Llys Apêl i’r casgliad bod yr euogfarnau gwreiddiol yn anniogel ar y sail bod datganiadau tystion wedi’u dinistrio.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Fulford bod y dyfarniad yn berthnasol i’r “tri achos llys a phob cyhuddiad y mae’r 14 o apelwyr yn eu hwynebu”.

Byddai’r barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi gallu rhoi “cyfarwyddiadau priodol” i’r rheithgor pe bai’r amddiffyn wedi cael gwybod bod datganiadau a gafodd eu hysgrifennu â llaw wedi’u dinistrio, yn ôl yr Ustus Fulford.

“Nid oes gennym amheuaeth y byddai’r broses llys wedi sicrhau tegwch i’r cyhuddedig petai hynny wedi digwydd,” meddai.

“Diwrnod truenus i gyfiawnder”

“Er ei bod hi’n gywir i’r dyfarniadau gael eu dileu, mae heddiw’n ddiwrnod truenus i gyfiawnder ym Mhrydain,” meddai Ricky Tomlinson, un o’r gweithwyr sy’n adnabyddus am ei rôl yn The Royle Family.

“Y realiti yw, na ddylem ni wedi bod yn sefyll yn y doc.

“Roedd hwn yn achos gwleidyddol, nid yn unig i fi a phicedwyr Amwythig, ond i’r symudiad undebau llafur.”

“Nid oeddem ni’n meddwl y byddem ni’n gweld y diwrnod yma,” meddai Terry Renshaw, un arall o’r criw, sy’n gyn-faer Y Fflint.

“Fe wnaeth y Llys Apêl gydnabod na wnaethom ni dderbyn achos llys teg. Fe wnaeth yr heddlu a’r awdurdodau erlyn ddefnyddio pob tric i sicrhau ein bod ni’n cael ein canfod yn euog, hyd yn oes os oedd hynny yn golygu dinistrio ein hawliau ac ymyrryd â thystiolaeth.”

Diwrnod “arwyddocaol”

Mae arweinwyr undebau llafur wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn “ddiwrnod arwyddocaol yn hanes undebau llafur”.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Unite fod y diwrnod yn un “hapus a chyfiawn i’r 24, ac i weithwyr ymhobman.”

“Am bron i 50 mlynedd, mae’r grŵp yma o weithwyr wedi bod yn amddiffyn eu hunain yn erbyn anghyfiawnderau’r wladwriaeth,” meddai Les McCluskey.

“O’r diwedd, mae pawb wedi clywed y gwir, ac mae cyfiawnder.”

Ychwanegodd na ddylai’r “gweithwyr dieuog hyn erioed fod wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa mor druenus gan y wladwriaeth Brydeinig.”