Bydd gweithwyr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe yn mynd ar streic ddechrau’r mis nesaf.
Mae tua 6,000 o weithwyr yn gweithio i’r asiantaeth yn Abertawe. Fe fyddan nhw yn streicio o Ebrill 6-9.
Mae undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi cyflwyno rhybudd o’r streic heddiw (Mawrth 23) yn dilyn pleidlais weithredu ddiwydiannol gyda 96% o blaid cefnogi ymgyrch o weithredu diwydiannol.
Mae’r aelodau yn pryderu am eu hiechyd a’u diogelwch yn dilyn mwy na 600 o achosion cadarnhaol o Covid-19 ar y safle ers mis Medi.
Dyma’r nifer fwyaf o achosion mewn unrhyw weithle yn y DU.
Ochr yn ochr â’r streic mae’r PCS yn galw am weithredu’n brin o streic, gyda gwaharddiad goramser yn dechrau ar Ebrill 10.
Sgyrsiau dwys
Mae’r undeb yn cynnal trafodaethau dwys gyda’r cyflogwr yr wythnos hon.
Dywed y PCS ei bod hi’n “hollbwysig bod cynifer o aelodau PCS â phosibl yn cael eu galluogi i weithio gartref ac nad yw’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio gartref ond nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle yn cael eu gorfodi i ddod i mewn.”
Dywedodd Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol PCS: “Mae angen i reolwyr DVLA roi’r gorau i ddiystyru diogelwch eu gweithwyr eu hunain oherwydd bod y gyfran Covid-19 yn rhy uchel.
“Mae’r ffaith bod aelodau’r PCS yn barod i gymryd camau streic digynsail yn dangos pa mor wael y mae rheolwyr DVLA wedi methu yn eu cyfrifoldeb i gadw staff yn ddiogel.
“Y dewis olaf yw mynd ar streic ond os bydd y rheolwyr yn parhau i ddiystyru diogelwch gweithwyr . . . ni fyddwn yn cael unrhyw ddewis arall.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r asiantaeth am eu hymateb.