Mae elusen Chwarae Teg yn annog arweinwyr pleidiau i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau trais ac aflonyddu rhywiol yn erbyn menywod.

Yn dilyn marwolaethau Sarah Everard a Wenjing Lin, mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd yn galw ar yr arweinwyr i flaenoriaethu hyn.

Daw hyn wedi i adroddiad newydd ddangos bod llai nag un ym mhob chwech o ferched sy’n dioddef ymosodiadau rhywiol yng Nghymru a Lloegr yn mynd at yr heddlu.

Dangosodd ymchwil diweddar gan UN Women UK bod 97% o ferched rhwng 18 a 24 oed yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol.

Gan dynnu sylw at pa mor gyffredin yw achosion o drais ac aflonyddu rhywiol yn erbyn merched, mae’r elusen wedi ysgrifennu at arweinwyr y Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’r elusen yn tynnu sylw at yr angen i arweinwyr ymrwymo i’r argymhellion sy’n cael ei nodi yn eu Maniffesto ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru.

Byddai’r argymhellion yn effeithiol wrth liniaru’r risgiau i fenwyod, yn ôl Chwarae Teg.

Ymysg yr argymhellion, mae camau sydd â’r nod o atal aflonyddu rhywiol, sicrhau bod system adrodd effeithiol ar gyfer menywod ar waith, a gwneud lleoedd cyhoeddus yn fwy diogel.

Yn ogystal, mae’r elusen yn dweud y dylid gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru.

Angen edrych ar beth ellir ei wneud yn “gyflym a chlir”

“Mae angen i’r rhai hynny sydd mewn sefyllfa o ddylanwad a phŵer edrych yn gyflym ac yn glir ar yr hyn y gellir ei wneud,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg.

“Dylai gwneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru fel blaenoriaeth allweddol, fel bod mecanweithiau adrodd effeithiol ar waith a bod menywod yn teimlo’n hyderus y bydd rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi.

“Rydym yn gwybod bod rhai yn gallu gweld ‘catcalling’ yn ddiniwed ond profwyd bod yr ymddygiad hwn, os caniateir iddo ddigwydd, yn cynyddu i droseddau fel trais rhywiol.

“Mae angen i’r cwricwlwm cenedlaethol annog sgyrsiau am barch a chydsyniad o oedran ifanc. Mewn gwirionedd, mae’n rhaid cael mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol o’r hyn yw aflonyddu rhywiol a’r niwed y mae’n ei achosi.

“Yn hanfodol, ar bob cam a lefel o wneud penderfyniadau mae’n rhaid bod cynrychiolaeth amrywiol o ferched wrth y bwrdd,” pwysleisia.

“Er enghraifft, wrth ddylunio lleoedd cyhoeddus rhaid i ddiogelwch menywod fod yn ystyriaeth ganolog. Mae angen hefyd i sectorau fel trafnidiaeth weithredu trwy ddatblygu polisïau i ddelio â digwyddiadau aflonyddu rhywiol a darparu hyfforddiant i staff fel y gallant ymateb yn effeithiol.

“Pan ddaw at economi’r nos rhaid i unrhyw strategaeth ar gyfer Cymru ymgorffori taclo ac atal aflonyddu rhywiol, a dylid cyflwyno ymgyrchoedd sy’n gweithio fel ‘Gofyn am Angela’, ymhellach.”

Mewn ymateb i achos Sarah Everard, a Wenjing Lin, mae’r elusen Cymorth i Ferched Cymru wedi dweud bod rhaid “gweithredu nawr i greu cymunedau sy’n herio’r agweddau sy’n caniatáu i hyn barhau.”