Mae hi wedi dod i’r amlwg fod dau ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai wedi cael eu henwi ar restr fer Gwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru.

Cafodd Gwobrau Dewi Sant eu lansio yn 2013 gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, gyda’r bwriad o gydnabod “campau eithriadol” pobol a sefydliadau.

Mae wyth categori’n cael eu henwebu gan y cyhoedd cyn i bwyllgor annibynnol benderfynu ar restrau byr.

Yna, ar ôl i restrau byr gael ei ddewis mae’r Prif Weinidog yn dewis yr enillydd.

Eleni, mae’r ymgeiswyr Llafur Dr Mahaboob Basha ac Elizabeth Buffy Williams ar restr fer y wobr ‘Ysbryd y Gymuned’.

Elizabeth Buffy Williams yw ymgeisydd Llafur yn y Rhondda, tra bod Dr Mahaboob Basha yn sefyll yng Ngorllewin De Cymru.

Collodd Llafur y Rhondda i Blaid Cymru yn etholiad 2016, ond nid yw’r blaid erioed wedi ennill sedd ranbarthol yng Ngorllewin De Cymru.

Cwestiynu a yw hi’n “briodol” gwobrwyo ymgeiswyr etholiad Llafur

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu a yw hi’n “briodol” i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ddewis yr enillydd “mewn blwyddyn etholiad”.

Fodd bynnag, maen nhw’n cydnabod fod y ddau sydd ar y rhestr fer yn “gystadleuwyr teilwng”.

“Mae’r unigolion dan sylw yn gystadleuwyr teilwng o ystyried eu gwasanaeth a’u cyfraniad,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Fodd bynnag, mae cwestiynau ynghylch a yw’n briodol, yn enwedig mewn blwyddyn etholiad, i’r Prif Weinidog gael ei weld yn defnyddio gwobrau mawreddog Dewi Sant i wobrwyo ymgeiswyr etholiad Llafur.”

“Bychanu cyfraniad eithriadol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau arbennig pobl Cymru.

“Mae aelodau’r cyhoedd yn enwebu pobl y maent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig ac mae pwyllgor sy’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru yn llunio rhestr fer o deilyngwyr.

“Mae awgrymu bod cymhelliant gwleidyddol ynghlwm wrth y gwobrau hyn yn bychanu cyfraniad eithriadol yr holl deilyngwyr hyn at fywyd yng Nghymru, ac yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf.”