Bydd dros £24m yn cael ei ddefnyddio i adfywio nifer o ganol trefi ledled Cymrju – ac i ddenu busnesau a chwsmeriaid yn ôl i’r strydoedd.
Ymhlith y trefi a’r dinasoedd fydd yn elwa fydd Glyn-Ebwy, Bryn-Mawr yn y De a Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor yn y Gogledd.
Gwnaed y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Dyma sut y bydd yr arian yn cael ei rannu:
- Bydd £18.4m o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag.
- Bydd £3.34m yn helpu busnesau’r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART;
- Bydd £3m ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng Ngogledd Cymru i leoli yng nghanol trefi.
Ers 2015, mae rhaglen Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol fel y gallant gefnogi landlordiaid i ailddatblygu eiddo gwag ac eiddo nad yw’n cael ei defnyddio’n ddigonol. Gall awdurdodau lleol weithredu’n uniongyrchol a defnyddio eu cyfran o’r £18.4m i gamu i mewn i brynu ac ailddatblygu eiddo i gefnogi gwaith arallgyfeirio canol trefi drwy annog defnydd mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd ac adeiladau gwag, megis preswyl, hamdden a gwasanaethau allweddol.
Ail-ddefnyddio adeiladau gwag
Unwaith y bydd y Benthyciad Canol Tref yn cael ei ad-dalu, bydd yr arian yn cael ei ailddefnyddio i ariannu benthyciadau newydd, dod â safleoedd gwag a diffaith yn ôl i ddefnydd, helpu busnesau i dyfu a ffynnu, a chefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer yr ymwelwyr ar ein strydoedd mawr.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cael £2.570m ar gyfer ailddatblygu safleoedd strategol yng Nglynebwy a Bryn-mawr, tra bydd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn £750,000 i ailddatblygu nifer o adeiladau.
Bydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn derbyn £6m i ail ddefnyddio adeiladau gwag hirdymor a bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn £2 filiwn i ailddatblygu’r hen farchnad da byw yn Llanidloes.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Fel rhan o’n dull Trawsnewid Trefi, rydym wedi buddsoddi dros £40m o gyllid Benthyciadau Canol Trefi dros dymor y Senedd hon, gan alluogi ailddatblygu a meddiannu llawer o adeiladau canol trefi ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at weld mwy o gartrefi, swyddfeydd a busnesau’n datblygu diolch i’r gwelliannau i eiddo a welwn o ganlyniad i’r cylch ariannu diweddaraf hwn.”
Bydd y cyllid o £3.34m ar gyfer canol trefi yn galluogi busnesau i gynllunio prosiectau i gefnogi eu twf economaidd yn ogystal â’u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol i’w helpu i ddeall eu sylfaen cwsmeriaid a’u tueddiadau yn well ac i farchnata. Bydd yr arian hefyd yn helpu i sefydlu siopau dros dro a hybiau creadigol i gynyddu eu cynnig manwerthu i sbarduno mwy o ymwelwyr i ganol y dref.
Bydd cronfa entrepreneuraidd ar wahân gwerth £3m yng nghanol trefi Gogledd Cymru i gymell entrepreneuriaid i leoli eu busnesau yng nghanol trefi Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor. Mae’r gronfa’n cynnwys cyllid grant a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae cefnogi ein busnesau a chanol ein trefi yn rhan allweddol o’n Cenhadaeth Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd wrth i ni anelu at ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd nag erioed o’r blaen.
“Rydym oll wedi gweld pwysigrwydd llwyfannau digidol yn ystod y pandemig, o ran sut rydym yn cysylltu â’n gilydd, yn prynu nwyddau a sicrhau mynediad at wasanaethau. Bydd manteisio i’r eithaf ar dechnoleg yn hanfodol i lwyddiant busnesau yn y dyfodol ac rwy’n falch iawn y bydd ein cyllid ar gyfer canol ein trefi yn helpu trefi a busnesau i wneud yr union beth hwnnw.
“Rwyf hefyd yn falch y byddwn yn gallu darparu cymhellion pwysig i fusnesau fel y gallwn gynyddu nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor. Bydd y cyllid hwn yn helpu i ddenu busnesau a phobl yn ôl i ganol trefi.”