‘Mae gofalu yn fater i bawb’ – dyna neges Llywodraeth Cymru heddiw wrth iddynt adnewyddu eu hymrwymiad i ofalwyr di-dâl drwy gyhoeddi strategaeth a blaenoriaethau cenedlaethol.
Flwyddyn wedi i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym, amcangyfrifir bod oddeutu 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, a llawer ohonynt wedi dechrau gofalu am y tro cyntaf o ganlyniad i’r pandemig.
Mae’r strategaeth newydd yn ganlyniad i waith ymgysylltu gyda gofalwyr di-dâl, a’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.
Amlinella’r strategaeth sut y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi gofalwyr di-dâl drwy wahanol ffynonellau cyllid, yn ogystal ag amlinellu’r gefnogaeth ar gyfer cyflwyno cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc.
Ynghyd â hynny, mae’n amlygu blaenoriaethau cenedlaethol, sy’n cynnwys adnabod a chydnabod gofalwyr di-dâl, darparu gwybodaeth, cyngor, a chymorth, helpu gofalwyr i fyw yn ogystal â gofalu, a chefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle.
Bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn nes ymlaen yn 2021.
“Gofalu yn fater i bawb”
“Mae gofalu yn fater i bawb – mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn gofalu am rywun ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae’n rhaid inni werthfawrogi gofalwyr di-dâl, a chydnabod eu bod yn rhan hanfodol o system iechyd a gofal Cymru, drwy eu cefnogi gorau y gallwn,” meddai Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan.
“Rwy’n gobeithio y bydd y strategaeth hon a’r cynllun cyflawni a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref yn llywio gwaith partneriaeth sy’n gweithio tuag at gymdeithas sy’n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed a chefndir i fyw yn dda a chyflawni eu nodau llesiant eu hunain.”
“Adlewyrchu blaenoriaethau gofalwyr”
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru eu bod yn “croesawu’r strategaeth newydd hon a’r ymrwymiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl.
“Rydym yn falch bod y strategaeth yn adlewyrchu’r blaenoriaethau y mae gofalwyr wedi’u rhannu gyda ni, yn enwedig dros y flwyddyn anodd ddiwethaf.
“Mae’n hanfodol nawr bod y cynllun cyflawni a fydd yn dilyn y strategaeth hon yn amlinellu’r gwahaniaeth ymarferol y bydd yn ei wneud i fywydau gofalwyr,” ychwanega Simon Hatch.
“Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn parhau i weithio’n galed mewn partneriaeth â gofalwyr a’n holl bartneriaid i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maent yn ei haeddu.”