Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi cynllun datgarboneiddio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru heddiw (dydd Mercher, Mawrth 24) gan ddweud y bydd yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd gan addo “sbarduno ton o weithredu”.
Fel rhan o hyn, diweddarwyr uchelgeisiau sector cyhoeddus Cymru i gyflawni allyriadau carbon ‘sero net’ erbyn 2030.
Mae cyhoeddiad Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru heddiw yn amlinellu’r cynigion mae’r Llywodraeth yn dweud fydd yn arwain at “newid sylweddol at ofal iechyd mewn rhai meysydd”.
Mae’n amlinellu bron i 50 o gynlluniau a thargedau a fydd yn cael eu hasesu a’u hadolygu yn 2025 a 2030, sy’n berthnasol i chwe maes gwahanol:
- Rheoli carbon
- Adeiladau
- Trafnidiaeth
- Caffael
- Rheoli ystadau a defnyddio tir
- Agwedd at ofal iechyd
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £16m yn cael ei ddarparu yn benodol ar gyfer cefnogi’r cynlluniau datgarboneiddio ar gyfer 2021-22.
Ar ben hyn, mae’r Llywodraeth wedi clustnodi £21m ychwanegol o gyllid cyfalaf fydd hefyd yn cael ei ddarparu yn 2021-22 ar gyfer seilwaith, diogelwch tân a phrosiectau iechyd meddwl.
Ychwanegodd y Llywodraeth fod dros 128,000 o ymgynghoriadau â chleifion wedi’u cynnal yn rhithiol, gan arbed oddeutu 521,000 o filltiroedd o deithio.
Mae hynny gyfwerth â 50 taith o Gymru i Dde Cymru Newydd yn Awstralia.
“Herio’r newid yn yr hinsawdd”
Dywedodd Vaughan Gething: “Mae gan bawb yng Nghymru ran i’w chwarae wrth herio’r newid yn yr hinsawdd, ac yn arbennig wrth ddatgarboneiddio ein gwasanaeth iechyd.
“Heb os, mae dewisiadau pob un ohonom – fel unigolion, fel cleifion ac fel staff – yn cyfrannu at helpu i leihau ein cyfraniad ar y cyd i allyriadau nwyon tŷ gwydr.
“Mae’n rhaid i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru weithredu nawr i leihau ei effaith ar yr amgylchedd, chwarae ei ran, a bod yn esiampl wrth gymryd camau i leihau allyriadau yn y dyfodol.
“Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau cyflym yn y pum mlynedd nesaf i sicrhau y cedwir at y targedau yn y strategaeth hon, ac mae’n rhaid i’r nod carbon isel fod yn ganolog i’r penderfyniadau.
“Mae angen i’r camau hyn fod yn rhan o brosesau pob dydd i’r fath raddau fel eu bod yn datblygu i fod yn ganolog i benderfyniadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”
“Rôl bwysig” y Gwasaneth Iechyd
Ychwanegodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru: “Fel y sefydliad sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rôl bwysig, a thargedau uchelgeisiol i gyflawni targedau datgarboneiddio.
“Gwnaed cynnydd da yn y blynyddoedd diwethaf ar draws Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ond gellir gwneud mwy.
“Mae’r Cynllun Cyflawni Strategol hwn yn rhoi cyfle inni edrych eto ar y defnydd o adeiladau ac ynni, yn ogystal â chaffael, teithio a ffynonellau allyriadau eraill ar draws y GIG.
“Mae mwy na 100 o arbenigwyr y diwydiant a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi cyfrannu at sicrhau bod y cynllun hwn wedi’i hysbysu, wedi’i dargedu, yn gredadwy, ac yn cael effaith sylweddol ar weithrediad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn y dyfodol.”